Cyfryngau Cymysg Creadigol - Gweithdy Undydd
Trosolwg
Yn y gweithdy undydd hwn, byddwch yn dysgu’r grefft o wneud mowld a chastio. P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n edrych i ddatblygu eich sgiliau presennol, mae’r cwrs hwn yn cynnig lle croesawgar i arbrofi, archwilio a magu hyder gydag amrywiaeth o wahanol gyfryngau a thechnegau.
Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a dealltwriaeth o’r theori y tu ôl i wneud mowld, gan weithio gydag ystod o wahanol ddeunyddiau, gan gynnwys:
- Plastr
- Clai
- Modroc
- Resin
- Sment.
Byddwn yn darparu arweiniad iechyd a diogelwch drwy gydol y diwrnod, ac felly gallwch ymarfer diogelwch yn hyderus.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gadael gyda arteffact 3D cyfryngau cymysg pwrpasol, wedi’i ddylunio i’w arddangos a’i fwynhau y tu allan.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb mewn meysydd pwnc cysylltiedig.
Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn yn Uplands.
Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau, sy’n cael ei asesu ar gyfer tystysgrif y cymhwyster.
Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.
Gwisgwch esgidiau synhwyrol ar gyfer y gweithdai hyn er diogelwch personol.
Sylwch: Mae’r cwrs hwn yn cynnwys ffi stiwdio £70, sy’n daladwy ar y diwrnod.