Technegau Gwydr
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn gyfle gwych i weithio gyda gwydr wedi’u ffurfio mewn odyn. Bwriedir i’r rhai sydd am ddysgu’r hanfodion neu ddatblygu’r sgiliau sydd eisoes ganddynt ymhellach.
Bydd y gweithdai gwydr yn cwmpasu arferion gweitdy diogel a llawer o sgiliau gwahanol fel sut i weithio’n ddiogel a pharatoi gwydr, a sut i ddefnyddio offer a chyfarpar gwahanol. Byddwn ni hefyd yn dangos i chi sut i weithio mewn dull cynaliadwy.
Y technegau y byddwn ni’n eu dangos i chi yw torri, ymdoddi a slympio, a byddwch chi hefyd yn creu mowld clai y gellir ei ddefnyddio sawl gwaith. Yn bennaf, byddwn ni’n gweithio gyda gwydr arnofio, stringeri, conffeti a ffritiau. Gadewch i ni ddechrau gyda thechnegau hynafol fel castio tywod a gorffen gyda phrosesau mwy modern fel chwistrellu tywod.