Serameg
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau adeiladu seramig, addurno arwyneb a thanio odyn.
Os hoffech chi ennill sgìl newydd, arbrofi â defnyddiau seramig, neu ychwanegu at wybodaeth flaenorol bydd y cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi archwilio’r grefft draddodiadol o grochenwaith yn ogystal â serameg gyfoes.
Mae’r pwyslais ar y cwrs hwn yn seiliedig ar dechnegau serameg traddodiadol – byddwch chi’n dysgu technegau gwneuthur â llaw a ffurfiau cast slip.
Bydd y cwrs hefyd yn archwilio prosesau addurno, sgleinio a thanio cyfoes.
Rhoddir arddangosiadau a sesiynau tiwtorial unigol drwy gydol y cwrs gan eich annog i ychwanegu at eich sgiliau a datblygu’ch dull eich hun tuag at grefft crochenwaith.