Skip to main content
Group of international students at Oystermouth castle

Bangkok Winter School

Hoffwn ymestyn ffarwel gwresog i Ysgol Triam Udom Suksa o Bangkok, Gwlad Thai a gymerodd ran mewn Rhaglen Drochi Cyn Astudio Meddygaeth gyda Choleg Gŵyr Abertawe am bythefnos ym mis Mawrth.

Ar ôl cyrraedd, derbyniodd y myfyrwyr groeso cynnes gan ein Tîm Rhyngwladol a chawsant daith o amgylch y campws cyn cymryd rhan mewn tiwtorial Gwyddor Feddygol, a ddarparwyd gan raglen Anrhydeddau CGA. Trwy gydol eu hymweliad fe wnaethant gymryd rhan mewn dosbarthiadau Bioleg, Cemeg, Seicoleg a Mathemateg, gan gael blas ar system addysg Cymru yn uniongyrchol. Parwyd yr ymwelwyr â dysgwyr lleol i sicrhau profiad hollol gynhwysfawr ac fe wnaeth y myfyrwyr o Wlad Thai ganmol ein darlithwyr a’r cydbwysedd rhwng dysgu ymarferol a dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol ar y campws, gan gynnwys sesiynau troseddeg a gweithdai dadansoddi dyrannu meddygol. Fe wnaethant gwrdd â’n Darlithydd Cyfryngau, sydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda Phrifysgol Toronto i geisio gwella bywyd cleifion sy’n dioddef o gyflyrau penodol.

Ochr yn ochr â’u hastudiaethau academaidd, cafodd y myfyrwyr gyfle i archwilio ystod o dirnodau diwylliannol a lleol. Fe aethant i Fae Rhossili, y Mwmbwls, Caerdydd a Chaerfaddon. Hefyd, fe aethant i ganol Dinas Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe, lle cawsant gyfle fwyta pics Cymreig traddodiadol a bara lawr - ac fe wnaeth un myfyriwr hyd yn oed brynu llwyth o gacennau iddo’i hun!

Fe aethant hefyd i Brifysgol Abertawe a’r Ysgol Feddygaeth, lle cawsant gyfle i ddysgu am y berthynas glós rhwng y Brifysgol ag Ysbyty Singleton; ysbyty addysgu pwysig iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Dan arweiniad y Llysgennad Myfyrwyr, fe wnaeth yr ymweliad amlygu’r cysylltiadau cryf rhwng y brifysgol a’r ysbyty a’r manteision sydd yn gysylltiedig â dysgu am y byd clinigol yn gynnar. Hefyd, cawsant gyfle i ymgysylltu â chlinigwyr profiadol y GIG.

Yn ogystal, fe wnaeth Cydlynwyr rhaglen Rhydgrawnt gyflwyno sesiwn Meddwl Beirniadol a gynlluniwyd i ddatblygu sgiliau llafaredd a rhesymu dadansoddol. Fe wnaeth hyn annog dysgwyr i ystyried disgwyliadau addysg uwch a'r sgiliau academaidd sydd eu hangen ar gyfer astudio yn y dyfodol.

Yn olaf, cwblhaodd myfyrwyr dasg a chyflwyno cyflwyniadau unigol i banel o staff ar CRISPR. Roedd y cyflwyniadau yn adlewyrchiad o’u dealltwriaeth wyddonol, ac fe wnaethant gymryd rhan mewn trafodaeth foesegol, gan arddangos sgiliau gwerthuso beirniadol a’r gallu i reoleiddio.