Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi cyfres newydd o weminarau eglur sydd wedi cael eu cynllunio’n arbennig ar gyfer cyflogwyr sydd am ddatblygu eu gweithlu drwy gymwysterau proffesiynol mewn Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad yn ogystal â Gyrfaoedd, Gwybodaeth a Chyngor.
Mae’r sesiynau’n gyfle gwerthfawr i gyflogwyr gysylltu’n uniongyrchol ag arbenigwyr pwnc, gan dderbyn mewnwelediadau gwerthfawr a gofyn cwestiynau mewn perthynas â’r cymwysterau a sut y byddant yn buddio eu sefydliad. P'un a ydych chi’n dymuno uwchsgilio staff presennol neu gefnogi gweithwyr newydd, mae'r gweminarau hyn yn fan cychwyn perffaith.
Mae'r ddau gymhwyster wedi'u hariannu'n llawn ac maent yn ffordd hygyrch a chost-effeithiol o geisio cryfhau eich timau.
Mae'r cymwysterau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad yn berffaith ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn rolau lle maent yn darparu cefnogaeth, arweiniad neu wybodaeth i eraill ar draws ystod eang o sectorau. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol megis darparwyr cwnsela, swyddogion cyswllt, athrawon a rolau eraill lle mae cyfathrebu ac arweiniad effeithiol yn allweddol.
Mae'r llwybr Gyrfaoedd, Gwybodaeth a Chyngor yn addas ar gyfer unigolion sy'n darparu cyngor diduedd i gleientiaid mewn perthynas â chyfleoedd dysgu, llwybrau hyfforddi a dilyniant gyrfa. Mae'r cymhwyster hwn addas ar gyfer unigolion sydd yn gweithio mewn rolau fel hyfforddwyr swyddi, staff cymorth dysgu a datblygu a'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth.
Trwy fynychu un o'r gweminarau, bydd cyflogwyr yn cael dealltwriaeth o sut y gall y cymwysterau wella gallu staff, gwella darpariaeth gwasanaethau gan hwyluso nodau sefydliadol.
Gallwch gofrestru drwy glicio’r linciau isod.
Dyddiadau ac amseroedd
Ebrill: Dydd Llun 27, 1pm – 1.30pm.
Mai: Dydd Mercher 13, 1pm – 1.30pm.
Mehefin: Dydd Mercher 17, 2pm – 2.30pm.
Gorffennaf: Dydd Gwener 3, 12pm – 12.30pm.
Awst: Dydd Llun 10, 10am – 10.30am.
Hydref: Dydd Iau 8, 11am – 11.30am.
Tachwedd: Dydd Mawrth 3, 3pm – 3.30pm.
Rhagfyr: Dydd Mercher 2, 9.30am – 10.30am.
Dywedodd Neil Brayshaw, Cyfarwyddwr Dros Dro Dysgu Seiliedig ar Waith yn y Coleg:
“Dwi wrth fy modd y bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal cyfres o weminarau llawn gwybodaeth, gan ddod ag arbenigwyr pwnc a gweithwyr proffesiynol ynhghyd. Mae’r gweminarau wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer cyflogwyr a hoffai ddatblygu eu gweithlu trwy gymwysterau proffesiynol mewn Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad yn ogystal â Gyrfaoedd, Gwybodaeth a Chyngor.
Dyma gyfle gwych i weithwyr proffesiynol fel darparwyr cwnsela, swyddogion cyswllt, athrawon a rolau tebyg lle mae cyfathrebu ac arweiniad effeithiol yn hanfodol, i weithio gyda’r Coleg i helpu i gefnogi a siapio eich anghenion sgiliau.”
Mae'r sesiynau hyn yn ddefnyddiol iawn i gyflogwyr sydd am fuddsoddi yn eu gweithlu a sicrhau bod gan eu timau'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad o’r radd flaenaf.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gweminarau neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â training@gcs.ac.uk neu 01792 284400.