Skip to main content
Paul Kift, Principal of Gower College Swansea.

Adeiladu’r gweithlu peirianneg y bydd ei angen ar Abertawe yn y dyfodol

Nid dod o hyd i beirianwyr yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cyflogwyr peirianneg, ond dod o hyd i beirianwyr gyda’r cyfuniad cywir o sgiliau.

Ar draws diwydiant, mae cyfuniad o sgiliau mecanyddol a thrydanol yn fwyfwy gwerthfawr ond yn hynod o anodd i’w recriwtio.

Mae cyflogwyr yn gweld eu hunain yn recriwtio myfyriwr graddedig peirianneg fecanyddol ac yna yn buddsoddi amser ac adnoddau sylweddol yn datblygu ei wybodaeth am beirianneg drydanol, systemau rheoli ac awtomeiddio. Neu i’r gwrthwyneb.

Mae’r dull hwnnw’n cymryd amser, yn costio arian ac nid yw bob amser yn rhoi’r arbenigedd helaeth sydd ei angen ar fusnesau.

Dyma lle rwy’n credu bod gan Brentisiaethau Gradd rôl bwysig i’w chwarae.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, rydym yn cynnig Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig BEng, yr unig raglen o’i math yng Nghymru.

Mae’r rhaglen wedi cael ei chynllunio o amgylch realiti peirianneg fodern, gan ddod â pheirianneg fecanyddol, drydanol, electronig a gweithgynhyrchu ynghyd yn ogystal â phrofiad ymarferol, seiliedig ar waith.

I gyflogwyr, mae hyn yn rhoi cyfle i ddatblygu talent peirianneg amlddisgyblaethol yn eu sefydliadau eu hunain, yn hytrach na dibynnu ar farchnad recriwtio graddedigion gynyddol gystadleuol yn unig.

Ac mae’r amseru yn bwysig.

Mae Abertawe a De-orllewin Cymru yn dechrau cyfnod cyffrous o ddatblygiad diwydiannol ac economaidd. Mae gan y Porthladd Rhydd Celtaidd, ochr yn ochr â thwf mewn ynni adnewyddadwy, ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen, gweithgynhyrchu uwch ac awtomeiddio, y potensial i greu cyfleoedd sylweddol i’r ardal.

Ond nid buddsoddiad a seilwaith yn unig fydd yn sicrhau’r twf hwnnw.

Mae angen y bobl sydd â’r sgiliau i wneud iddo ddigwydd.

Bydd angen i’r peirianwyr sy’n gweithio yn y diwydiannau hyn ddeall fwy a mwy sut mae gwahanol systemau a disgyblaethau yn cysylltu. Mae’r ffiniau rhwng peirianneg fecanyddol, drydanol, digidol, gweithgynhyrchu a rheoli yn llai amlwg erbyn hyn.

Nid cynnig mwy o gymwysterau yw ein hunig gyfrifoldeb fel darparwr addysg felly.

Rhaid i ni ddeall i ba gyfeiriad y mae diwydiant yn mynd a datblygu sgiliau arbenigol a fydd yn anodd eu recriwtio yn y dyfodol.

Mae Peirianneg Integredig yn enghraifft dda o’r dull hwn.

Mae prentisiaid yn treulio eu pedair blynedd cyntaf yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn cwblhau eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw’n parhau i fod yn gyflogedig drwy’r amser, gan ennill addysg ar lefel prifysgol wrth gymhwyso eu sgiliau i heriau peirianneg go iawn ac ennill profiad proffesiynol gwerthfawr.

Mae hynny yn fuddiol i bawb.

Mae cyflogwyr yn datblygu’r dalent arbenigol sydd ei hangen arnynt. Mae dysgwyr yn ennill wrth ddysgu ac yn adeiladu eu gyfaoedd. Ac mae ein hardal ni yn cadw pobl uchelgeisiol, hynod fedrus.

I mi, mae’r pwynt olaf hwnnw’n arbennig o bwysig.

Os yw Abertawe a De-orllewin Cymru am wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gyflwynir gan yr economi werdd a datblygiadau fel y Porthladd Rhydd Celtaidd, mae angen i ni sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at y sgiliau a’r llwybrau a fydd yn caniatáu iddynt chwarae rhan ganolog yn y dyfodol hwnnw.

Nid yn unig mae angen i ni recriwtio’r genhedlaeth nesaf o dalent peirianneg ond mae angen i ni ei datblygu hefyd.

Dyna pam mae Prentisiaethau Gradd yn bwysig.

A dyna pam bydd datblygu sgiliau amlddisgyblaethol arbenigol mor bwysig i ddyfodol peirianneg Abertawe.
I gyflogwyr a hoffai ddatblygu’r dalent hon o fewn eu sefydliad, neu unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn Peirianneg Integredig, cysylltwch â he@gcs.ac.uk i wybod rhagor.