Skip to main content

Diwrnod Darganfod Digidol – Hygyrchedd Digidol

Rhan-amser, GCS Training
Sketty Hall
Un Diwrnod

Trosolwg

Mae ein Diwrnod Darganfod Digidol yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i wneud cynnwys digidol yn fwy hygyrch a chynhwysol mewn perthynas â busnes, addysg, elusennau neu ddefnydd personol.

Bydd dysgwyr yn cael cyfle i archwilio offer Microsoft 365, gan ddysgu sut i greu dogfennau sydd nid yn unig yn hygyrch ond sydd wedi'u strwythuro'n well ac yn haws i'w defnyddio. Bydd y sesiwn yn cwmpasu nodweddion fel isdeitlau, cyfieithiadau, trawsgrifio, cwblhau tasgau â chymorth DA, a dulliau o greu cynnwys digidol gyda hygyrchedd mewn golwg.

Bydd dysgwyr yn dysgu strategaethau ymarferol ac yn magu digon o hyder fel y gallant gynhyrchu gwaith digidol yn gliriach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy effeithiol i bob cynulleidfa.

Gwybodaeth allweddol

Gwybodaeth am ddefnyddio offer digidol.

Bydd y sesiwn yn cael ei gyflwyno drwy weithdy rhyngweithiol ymarferol, a bydd sesiwn y bore yn cael ei chyflwyno dan arweiniad tiwtor. Yn y bore, bydd dysgwyn yn derbyn cyflwyniad i offer hygyrchedd allweddol Microsoft 365, gan ddysgu ffyrdd ymarferol o'u defnyddio. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfle i roi cynnig ar yr offer eu hunain, gan arbrofi gyda fformatio, trawsgrifio, crynhoi DA a nodweddion eraill.

Yn y prynhawn, bydd y sesiwn yn fwy cydweithredol, lle bydd dysgwyr yn cael cyfle i rannu profiadau, trafod yr hyn sydd wedi gweithio'n dda, datrys problemau ac archwilio atebion ymarferol gyda'i gilydd.

Mae'r dull hwn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill sgiliau ymarferol ac yn magu digon o hyder i ymgorffori hygyrchedd yn eu cynnwys digidol a'u llwyth gwaith eu hunain.

Cyrsiau eraill a gynigir gan Golg Gŵyr Abertawe suy’n debyg i’r Diwrnod Darganfod Digidol:

  • Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchedd yn y Gweithle
  • Deallusrwydd Artiffisial ac Offer Digidol Am Ddim ar gyfer Addysg
  • Cydweithio a Chyfathrebu Digidol
  • Cynnwys Creadigol Digidol.

Cyrsiau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: 

  • Cwrs Llythrennedd Digidol byr - Lefel 2 (Dau ddiwrnod)
  • Cwrs Llythrennedd Digidol byr - Lefel 3 (Pum niwrnod)
  • Sgiliau Digidol Lefel 2 ar gyfer Busnes
  • Sgiliau Digidol Lefel 3 ar gyfer Busnes.

Tystysgrif presenoldeb.

Dewch â'ch gliniadur eich hun os yn bosibl er mwyn cofrestru ar gyfer offer digidol ar eich dyfais eich hun. Os nad oes gennych liniadur, gallwn ni ddarparu un.

Off