Skip to main content

Wythnos Prentisiaethau Cymru

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad wythnos o hyd i gydnabod rôl allweddol prentisiaethau a’u pwysigrwydd o ran llunio gweithlu Cymru yn y dyfodol, grymuso dysgwyr a hybu llwyddiant busnes ar draws economi Cymru.

Apprenticeships Wales Logo

Gweithgareddau'r Wythnos Brentisiaethau

Ar gyfer Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 – sy’n rhedeg o ddydd Llun 9 Chwefror tan ddydd Sul 15 Chwefror – rydyn ni wedi bod yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau:

  • Ar ddydd Llun, 9 Chwefror, fe wnaethon ni gynnal ein Gwobrau Prentisiaethau blynyddol. Roedd y seremoni yn gyfle i ddathlu cyflawniaau ein prentisiaid, cyflogwyr a staff.
  • Ar ddydd Mercher 4 Chwefror fe gynhaliwyd Ffair Prentisiaethau a Recriwtio yn addas ar gyfer pobl o bob oed sydd am ddilyn prentisiaeth. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, gyda dros 500 yn besennol i siarad â darlithwyr a chyflogwyr. Cadwch lygad allan ar ein gwefan digwyddiadau i weld pa ddigwyddiadau prentisiaethau a recriwtio sydd ar y gweill.
  • Trwy gydol yr wythnos, rydyn ni wedi cynnal gweminarau ar ddatblygiad er mwyn cynnig eglurder ar sectorau amrywiol gan gynnwys rheolaeth, digidol, cyllid, gwasanaeth cwsmeriaid, gwasanaethau cyfreithiol, rheoli cyfleusterau a pheirianneg, gan rannu mewnwelediadau gwerthfawr i brentisiaid presennol a darpar brentisiaid.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru unwaith eto yn 2027!