Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru wedi agor ei swyddfa De-orllewin Cymru yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti Coleg Gŵyr Abertawe, gan gryfhau ymhellach y cysylltiadau rhwng busnes ac addysg yn yr ardal.
“Mae’n bleser gennym groesawu CBI Cymru i’w cartref newydd yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti. Mae’n gyfle gwerthfawr ar gyfer cydweithredu pellach, cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu’n agosach â’n dysgwyr,” meddai Pennaeth y Coleg, Paul Kift. “Mae hefyd yn cyd-fynd yn berffaith â’n huchelgais i fod yn ymatebol i anghenion busnes er mwyn cynnig y ddarpariaeth fwyaf arloesol. Mae ein myfyrwyr ar eu hennill, oherwydd rydyn ni’n gallu sicrhau bod eu sgiliau wedi’u teilwra i fod yn fwy cyflogadwy a bod eu rhagolygon yn well eto ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Yn ogystal, mae Cyfarwyddwr CBI Cymru, Russell Greenslade, wedi ymuno â Bwrdd Cynghori Ysgol Fusnes Plas Sgeti, gan ddod â thros 20 mlynedd o brofiad arweinyddiaeth gydag ef gan gynnwys ei gyfnod fel Prif Weithredwr Ardal Gwella Busnes Abertawe. Bydd ei gyfranogiad yn helpu i bontio’r bwlch rhwng addysg a menter, yn enwedig o ran datblygu sgiliau ac ymgysylltu â chyflogwyr.
“Mae Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent – sy’n cyd-fynd â’r sgiliau, yr uchelgais, a’r arweinyddiaeth sydd eu hangen ar ein heconomi,” meddai Russell. “Dwi’n edrych ymlaen at godi cwr y llen ar ein cymuned fusnes a chefnogi gwaith y Coleg o ran pontio addysg a menter.” Y symudiad i Blas Sgeti yw’r diweddaraf mewn cyfres hir o gysylltiadau rhwng Coleg Gŵyr Abertawe a CBI Cymru. Mae cyn-Gyfarwyddwr CBI Cymru - Ian Price - wedi dod yn Gadeirydd Corff Llywodraethu’r Coleg yn ddiweddar.
Mae Bwrdd Cynghori Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn cynnwys: CBI Cymru; Pobl; Vodafone; Porthlass Rhydd Celtaidd; Tidal Range Alliance; Tramshed Tech; Secret Hospitality Group; Resource Ltd; Hyppo Hydrogen Solutions; The Safety Letterbox Company; Mazuma; Concrete Structures and Floors; reThink PR and Marketing; Mrs Buckét a Chyngor Abertawe.
“Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o fod wedi partneru â chynifer o sefydliadau a chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol blaenllaw sy’n ffurfio’r Bwrdd Cynghori,” meddai Paul. “Mae hyn yn atgyfnerthu cenhadaeth yr Ysgol Fusnes i ddatblygu talent y dyfodol sy’n ateb anghenion ein heconomi sy’n esblygu.”