Gyda’r flwyddyn academaidd newydd ar fin dechrau, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad croeso arbennig iawn i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ar Gampws Gorseinon.
Yn ystod Diwrnod Croeso 2025 fe wnaeth staff a myfyrwyr fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gyda’r nod o gael pawb i ddefnyddio eu Cymraeg wrth ddod i adnabod ei gilydd.
Ymhlith y gwesteion arbennig roedd cyflwynydd S4C a throellwr BBC Radio Cymru, Mirain Iwerydd, a siaradodd am ei gyrfa hyd yma gan roi cyngor ar sut i greu riliau diddorol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Yn ymuno â Mirain roedd Sketchy Welsh a anogodd y myfyrwyr i greu a darlunio cymeriadau Cymreig.
Yn bresennol hefyd roedd cantores / gitarydd Adwaith, ac un o gyn-fyfyrwyr y Coleg, Hollie Singer, a berfformiodd set acwstig arbennig a rhannu ei hangerdd am yr iaith Gymraeg.
Rhwng sesiynau golff gwallgof a thennis bwrdd, cafwyd digon o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, ymlacio a bwyta cacennau a phitsas blasus!
“Cawson ni amser bendigedig ac roedd hi’n wych gweld pawb yn dod i nabod ei gilydd, yn defnyddio eu Cymraeg ac yn cael hwyl gyda’i gilydd,” meddai Rheolwr Dwyieithrwydd y Coleg, Helen Humphreys. “Roedden ni wrth ein bodd o groesawu Mirain, Josh (Sketchy Welsh) a Hollie i Gampws Gorseinon, roedd hi’n wirioneddol ysbrydoledig i’n dysgwyr glywed sut mae defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn ased mawr a sut y byddan nhw’n parhau i’w defnyddio wrth astudio yn y Coleg.”
Mae’r Coleg yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau Cymraeg a dwyieithog drwy gydol y flwyddyn fel Diwrnod Santes Dwynwen, Wythnos Gymraeg, a Dydd Miwsig Cymru. Mae hefyd yn dathlu digwyddiadau eraill megis Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac Wythnos Enfys drwy gyfrwng y Gymraeg.