Skip to main content
Myfyriwr yn sefyll ar bwys balwnau a wal gliter, arwydd llongyfarchiadau

Sgiliau iaith Saesneg yn talu ar eu canfed i Eleri

Mae Eleri Reed, myfyriwr Safon Uwch, wedi ennill gwobr mewn cystadleuaeth a gynhelir gan Brifysgol Aston ar gyfer myfyrwyr Saesneg Blwyddyn 12 ledled y DU. 

Fe enillodd Eleri’r wobr gyntaf, sef taleb llyfrau gwerth £50, ond yn ogystal â hyn, bydd ei chyd-ddisgyblion yn derbyn darlith arbenigol ar bwnc o’u dewis wedi’i recordio’n arbennig ar eu cyfer gan aelod o staff academaidd Prifysgol Aston.

Fel rhan o’r gystadleuaeth, roedd gofyn i Eleri arddangos ei sgiliau dadansoddi iaith trwy lunio archwiliad 650 gair ar sut mae’r iaith a ddefnyddir mewn hysbysebion y GIG yn annog y cyhoedd i ymweld â’u fferyllydd i drin mân anafiadau.

“Braf yw gweld un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe’n ennill cystadleuaeth Iaith Saesneg genedlaethol,” meddau Shona Sutherland, darlithydd. “Bydd y dosbarth cyfan yn elwa o’r llwyddiant, sy’n dda iawn. Da iawn ti, Eleri!”