Newyddion y Coleg
Lansio ymgyrch DYMA FI i herio stereoteipio ar sail rhywedd ac atal camdriniaeth
Heddiw lansiwyd ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhai o'r rhesymau y tu ôl i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae'r hysbysebion teledu, radio ac ar-lein yn dangos pobl mewn sefyllfaoedd sy'n herio ein syniadau am rywedd. Er enghraifft, dyn yn gweithio fel bydwraig, menyw'n gweithio fel peiriannydd, dyn ifanc yn rhoi colur ymlaen yn gelfydd a merch fach yn chwarae gyda thryc, a mwd drosti.
Caiff pobl ei hannog i fod yn rhan o'r ymgyrch drwy siarad am eu profiadau a'u cysyniadau o stereoteipio drwy ddefnyddio #dymafi.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn gobeithio ennill gwobrau cyfrifeg
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei roi ar y rhestr fer yn y categori Coleg Cyfrifeg y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) yn seremoni wobrwyo PQ Magazine – teitl a gipiodd y Coleg yn 2016.
Yn wir, dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r Coleg - sef yr unig sefydliad AB yn y DU ar hyn o bryd i gael statws Partner Platinwm gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig - gael ei anrhydeddu yn y seremoni wobrwyo hon.
Darllen mwy
Llwyddiant Caergrawnt!
Mae dau o’n myfyrwyr o Tsieina, Fuhao Song a Han Xuanyuan, wedi cael eu derbyn yn ddiweddar i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Enillodd y myfyrwyr hyn 7 gradd A* rhyngddyn nhw – mae hyn yn anhygoel.
Bydd Fuhao yn astudio Mathemateg yng Ngholeg Homerton a bydd Han yn astudio Cyfrifiadureg yng Ngholeg Churchill.
Llwyddiant i nofiwr o’r coleg
Bu Niamh Jones myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, sy’n astudio Lefel-A ar gampws Gorseinon, yn cymryd rhan yn Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar.
Ennillodd y fedal efydd yn y ras broga. Roedd hi’n cystadlu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru gyfan yn y categori oedran 16-19.
Darllen mwy
Ceisiadau – cyrsiau amser llawn 2018
Gallwch wneud cais nawr i astudio cwrs amser llawn gyda ni ym mis Medi.
Nid oes dyddiad cau swyddogol i wneud cais ond, pan fyddwch wedi penderfynu beth yr hoffech ei astudio, cyflwynwch eich cais i sicrhau lle ar eich cwrs dewis cyntaf wrth gwrs - dilynwch y dolenni isod:
Os ydych yn ddisgybl mewn ysgol yn Ninas a Sir Abertawe, rhaid i chi wneud cais trwy UCAS Progress
Darllen mwy
Chwe myfyriwr ar eu ffordd i Rydgrawnt
Mae chwe myfyriwr sy’n dilyn y Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio yn Rhydychen neu Gaergrawnt yn 2018. Y myfyrwyr yw:
Darllen mwy
Diwrnod blasu nyrsio a bydwragedd
Yn dilyn llwyddiant y coleg wrth ennill arian prosiect gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bu myfyrwyr â diddordeb mewn astudio nyrsio, bydwreigiaeth a gwaith cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu mynychu diwrnod blasu ym Mhrifysgol Abertawe.
Darllen mwy
Coleg yn lansio prosiect codi sbwriel
Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn torchi eu llewys ac yn gwisgo menig a siacedi gwelededd uchel wrth iddynt ddechrau menter newydd i godi sbwriel o amgylch campws Gorseinon.
Mae’r prosiect cymunedol hwn yn cael ei lywio gan y Cyngh Kelly Roberts, cyn-fyfyriwr yn y Coleg, a’r Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol Jenny Hill.
“Mae brwdfrydedd staff a myfyrwyr y Coleg a’r ffordd maen nhw wedi ymroi’n llwyr i’r fenter newydd hon wedi creu argraff arna i,” dywedodd y Cyngh Roberts.
Darllen mwy
Myfyrwyr rhyngwladol yn teithio o gwmpas adeg y Nadolig
Yn y cyfnod prysur cyn y Nadolig, mae ein Myfyrwyr Rhyngwladol wedi bod yn teithio o gwmpas – a mynd i hwyl yr ŵyl.
Yn gyntaf, aethon nhw i Gaerfaddon lle roedden nhw wedi ymweld â’r Baddonau Rhufeinig cyn galw heibio i farchnad Nadolig drawiadol y ddinas a’r Royal Crescent hanesyddol.
Yn ôl yn Abertawe, roedd y myfyrwyr wedi cymryd ychydig o amser i ffwrdd o’u hastudiaethau a mentro allan yn y tywydd oer i ymweld â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau i fwynhau’r reidiau a sglefrio ar yr iâ.
Cyfweliadau Rhydgrawnt ar gyfer 30 o fyfyrwyr
Mae 30 o’r 43 o fyfyrwyr sy’n dilyn y Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar hyn o bryd wedi llwyddo i gael cyfweliad yn Rhydychen neu Gaergrawnt.
Mae’r rhaglen sefydledig, a addysgir ar gampws Gorseinon, yn darparu’r paratoad gorau posibl, i fyfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 75
- Tudalen nesaf ››