Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn croesawu pedwar aelod o staff o Goleg ROC Midden yn yr Iseldiroedd yr wythnos hon.
Mae’n cael ei gynnal gan y maes dysgu technoleg busnes o ddydd Mawrth 17 Ebrill tan ddydd Gwener 20 Ebrill, a’u prif ffocws fydd gweld sut mae’r system addysg yng Nghymru yn wahanol i’r un yn yr Iseldiroedd.
Byddan nhw’n arsylwi ar ddosbarthiadau o lefelau 1-3 mewn busnes, economeg, cyfrifeg, troseddeg a’r gyfraith ar gampws Gorseinon a champws Tycoch. Byddan nhw hefyd yn gweld sut mae’r staff yma yn y Coleg yn ysgogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Mae hyn i gyd yn rhan o raglen Erasmus+, ac fe’i trefnwyd rhwng swyddfeydd rhyngwladol o’r ddau goleg, gyda chymorth y Rheolwr Maes Dysgu Busnes a Thechnoleg, Bruce Fellowes, a Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu, Darren Fountain.
Roedd Bruce wedi ymweld â Choleg ROC Midden yn ôl yn 2010 a dweud bod y profiad yn un hynod werthfawr.
Yn siarad am yr ymweliad yr wythnos hon, dywedodd: “Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau partneriaeth lwyddiannus gyda Choleg ROC Midden fel rhan o’n rhaglen profiad gwaith ryngwladol ar gyfer myfyrwyr cerbydau modur.”
Mae staff o’n hadrannau Gofal Iechyd a Busnes hefyd wedi ymweld â’r Iseldiroedd dros y blynyddoedd ac nawr dyn ni’n croesawu ein cymrodyr yr wythnos hon.
“Mae’n bleser gennym ddangos rhai o’r datblygiadau diweddar yn y Coleg gan gynnwys ein hystafell gyffredin newydd sbon a’r Ganolfan Addysg Uwch ar Gampws Tycoch.”