Skip to main content

Newyddion y Coleg

Dros 60 o gyflogwyr yn lleisio pryder ynghylch toriadau posibl i brentisiaethau

Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau flaenllaw Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ffyniant economaidd Cymru.

Darllen mwy
Kelly Fountain

Coleg Gŵyr Abertawe yn penodi Pennaeth newydd

Mae un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe, wedi penodi Kelly Fountain fel ei Bennaeth nesaf.

Bydd Kelly, cyn Ddirprwy Bennaeth Gwasanaethau Academaidd yng Ngrŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot, yn dechrau’r swydd yn Ionawr 2024.

Bydd Kelly yn dod â mwy nag 20 mlynedd o brofiad i’r rôl, gyda hanes o arweinyddiaeth a rheolaeth strategol gryf, ac ehangder a dyfnder o brofiad uwch mewn sefydliadau cymhleth ac amlhaenog.

Darllen mwy
Students listening to a speaker

Myfyrwyr yn cwrdd â phobl o’r diwydiannau creadigol

Mae myfyrwyr cyfryngau galwedigaethol ar Gampws Gorseinon wedi cael cyfle anhygoel i gwrdd â phobl o fyd diwydiant.

Aeth aelodau o dîm Cynllun Cynhyrchu Creadigol BBC Cymru Wales i ddigwyddiad rhwydweithio anffurfiol gyda’n dysgwyr ychydig cyn gwyliau’r Nadolig.

Roedd fformat y digwyddiad ar ffurf ‘caru cyflym’ lle cwrddodd y myfyrwyr â gwneuthurwyr rhaglenni o BBC Cymru Wales a’r sector annibynnol, ac ar draws amrywiaeth eang o genres gan gynnwys newyddion, chwaraeon, radio, digidol a marchnata, addysg ac archifau.

Darllen mwy
Grŵp o fyfyrwyr

Blwyddyn newydd, chi newydd? Cyrsiau rhan-amser yn dechrau ym mis Ionawr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Wrth i ni groesawu’r Flwyddyn Newydd, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn eich gwahodd i wella’ch sgiliau gyda’u cyrsiau rhan-amser. Darllen mwy
Myfyrwyr yn y dŵr

Sblasio ar gyfer elusen

Mae grŵp o fyfyrwyr a staff eofn o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mentro i mewn i ddŵr fferllyd Bae Caswell i godi arian tuag at elusen Prosiect Addysg Gymunedol Cenia (PAGC). Maen nhw eisoes wedi codi dros £800! Darllen mwy

Y Coleg yn dathlu llwyddiant carfan ILM Cyngor Abertawe

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o ddathlu llwyddiannau tîm Parciau a Glanhau Cyngor Abertawe. Darllen mwy
A group picture featuring the successful learners and their tutor, Susan Washer.

Y Coleg yn dathlu llwyddiant carfan ILM Cyngor Abertawe

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o ddathlu llwyddiannau tîm Parciau a Glanhau Cyngor Abertawe.

Dechreuodd tîm Jeremy Davies eu cwrs Dyfarniad ILM Lefel 3 ychydig dros ddeuddeg mis yn ôl, a gyda chymorth ac arweiniad tiwtoriaid y Coleg Adele Morgan a Susan Washer, graddiodd y tîm yn llwyddiannus mewn digwyddiad dathlu bach yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Darllen mwy
Grŵp o fyfyrwyr

Disgyblion Abertawe'n mwynhau Diwrnod Blasu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Fe wnaeth dros 850 o fyfyrwyr o bum ysgol yn Abertawe fwynhau Diwrnod Blasu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddydd Mawrth 19 Rhagfyr. Darllen mwy
Four ALPS members standing in front of pink Gower College Swansea pull-up banners and the ALPS logo on screen with text saying Croeso! Welcome!

Cyrraedd y Brig: Rhannu arferion gorau ar gyfer addysg oedolion yn Abertawe

Yn ddiweddar, fe wnaeth aelodau o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) gwrdd ar Gampws Llwyn y Bryn Coleg Gŵyr Abertawe ar gyfer digwyddiad rhannu arferion gorau.

Mae ALPS, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dod â sefydliadau blaenllaw ynghyd ym maes addysg oedolion, sy’n ceisio darparu addysg hygyrch o ansawdd uchel i ateb anghenion a dyheadau’r gymuned.

Darllen mwy
Mark Drakeford

Myfyrwyr Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn cwrdd â’r Prif Weinidog

Fe wnaeth myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe groesawu ymwelydd arbennig iawn yn ddiweddar – Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Daeth tua 60 o fyfyrwyr, y mwyafrif helaeth ohonynt yn astudio ar y cwrs Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, ynghyd ar Gampws Gorseinon i glywed y Prif Weinidog yn rhoi anerchiad hynod ddiddorol am ei fywyd mewn gwleidyddiaeth.

“Dyma gyfle anhygoel i’n dysgwyr glywed yn uniongyrchol gan y Prif Weinidog am ei lwybr gyrfa a rhai o’i brofiadau yn ystod ei gyfnod yn y swydd,” meddai Arweinydd y Cwricwlwm, Scott Evans.

Darllen mwy