Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau flaenllaw Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ffyniant economaidd Cymru.
Mewn llythyr agored, mae cyflogwyr yn dweud y bydd toriadau i’r rhaglen brentisiaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr 2023 yn cael effaith ddinistriol ar brentisiaid, cyflogwyr, a chymunedau, ac felly mae cyfnod heriol iawn o’n blaenau i’r sectorau AB a dysgu seiliedig ar waith. Gallai olygu y bydd 10,000 yn llai o brentisiaid yn gallu dechrau’r flwyddyn nesaf, gyda’r gostyngiadau’n disgyn yn anghymesur ar bobl ifanc, a’r rheini yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf.
Yn y gorffennol mae ColegauCymru wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch effaith toriadau posibl i brentisiaethau a’r cynnig AB ehangach.
Yn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones:
“Ar yr un pryd ag y mae colegau’n edrych i ymateb i alwad Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi gryfach, mae’n siomedig bod y gyllideb ar gyfer prentisiaethau, sef un o’r ffyrdd allweddol o gyflawni’r datblygiad hwn, yn lleihau. Mae hyn yn anffodus, ond yn anochel, yn mynd i gael effaith ar rai cyflogwyr a rhai darpar brentisiaid nawr gan na fydd cyfle ganddynt i ddatblygu eu sgiliau.”
Effaith yn Abertawe
- Ers 2019, mae 6,295 o brentisiaid wedi dechrau yn ardal Cyngor Abertawe.
- Mae’r rhain wedi bod mewn amrywiaeth o sectorau, o adeiladu i reoli ac mae 2,715 wedi bod yn y gweithlu gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.
- Rhwng Ionawr 2023 a diwedd Medi 2023, mae 1,400 wedi dechrau yn Abertawe.
- Mae 610 o’r ffigwr hwnnw wedi bod yn y gweithlu gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.
- Gyda thoriad disgwyliedig o hyd at 50% i gyllid prentisiaethau yn y flwyddyn gontract o fis Awst 2024, bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar nifer y prentisiaid newydd yn ardal Cyngor Abertawe.
Mae colegau addysg bellach yn hanfodol i Gymru decach, wyrddach a chryfach, ond mae angen cyllid cynaliadwy arnynt i allu cefnogi dysgwyr a chyflawni ar gyfer cyflogwyr. Mae’r cyfuniad o’r toriadau i’r gyllideb prentisiaethau a gostyngiadau mewn cyllid mewn mannau eraill yn golygu bod storm berffaith yn wynebu’r sector o ganlyniad i’r cynigion yn y gyllideb ddrafft.