Skip to main content
A group picture featuring the successful learners and their tutor, Susan Washer.

Y Coleg yn dathlu llwyddiant carfan ILM Cyngor Abertawe

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o ddathlu llwyddiannau tîm Parciau a Glanhau Cyngor Abertawe.

Dechreuodd tîm Jeremy Davies eu cwrs Dyfarniad ILM Lefel 3 ychydig dros ddeuddeg mis yn ôl, a gyda chymorth ac arweiniad tiwtoriaid y Coleg Adele Morgan a Susan Washer, graddiodd y tîm yn llwyddiannus mewn digwyddiad dathlu bach yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

“Roedd gweithio gyda charfan y Cyngor yn brofiad gwerth chweil. Er gwaetha’r heriau a wynebwyd, gweithiodd y grŵp gyda’i gilydd i gyflawni eu Dyfarniad ILM Lefel 3 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Erbyn diwedd y daith hon roedd gan yr unigolion lawer mwy o hyder, gan roi modd iddyn nhw barhau i ddatblygu.” meddai Adele Morgan, Tiwtor/Aseswr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.  

Ychwanegodd Chris Howell, Pennaeth Rheoli Gwastraff a Gweithrediadau Parciau a Glanhau yng Nghyngor Abertawe “Dwi mor falch o’n haelodau o staff sydd wedi gweithio’n eithriadol o galed i ennill y cymhwyster hwn. Mae pawb wedi cofleidio’r cwrs hwn, maen nhw wedi magu hyder a rhagori yn yr holl dasgau. Yn bennaf oll, dylen nhw i gyd fod yn browd iawn o’u cyflawniadau eu hunain. Yn ogystal, hoffwn i ddiolch i Goleg Gŵyr Abertawe a’u staff am gefnogi a helpu’r holl gyfranogion ar hyd eu taith.”