Skip to main content

Newyddion y Coleg

Diweddariad pwysig: Dydd Llun 19 Medi

Yn dilyn marwolaeth drist ein Brenhines a’r cyhoeddiad y bydd gŵyl banc gyhoeddus ar gyfer ei hangladd, rydyn ni’n cadarnhau y bydd y Coleg ar gau ddydd Llun 19 Medi.

Bydd yr holl gampysau yn aros ar gau ac ni fydd addysgu’n digwydd.

Ni fydd taliadau LCA yn cael eu heffeithio ar gyfer y diwrnod hwn.

Darllen mwy
Adeiladu dyfodol gwyrddach  i’n cymunedau campws

Adeiladu dyfodol gwyrddach i’n cymunedau campws

Rydym bob amser yn meddwl am y dyfodol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, yn enwedig wrth i’r tymor newydd ddechrau.

Darllen mwy

Sefydliad City & Guilds a Choleg Gŵyr Abertawe yn lansio prosiect arloesol gwerth £100k i helpu pobl ifanc mewn perygl i gael gwaith

Mae Sefydliad City & Guilds a Choleg Gŵyr Abertawe wedi ymrwymo i bartneriaeth strategol newydd i gynorthwyo dysgwyr sydd mewn perygl o roi’r gorau i addysg, goresgyn rhwystrau a dod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o ennill sgiliau a gwaith parhaus.

Bydd y cyllid yn rhoi hyd at 200 o bobl ifanc drwy raglen cymorth Pontio ac Ymgysylltu, gyda’r nod o godi dyheadau a helpu dysgwyr difreintiedig ac sydd wedi ymddieithrio i ddatblygu a gwella eu sgiliau presennol i’w paratoi ar gyfer byd gwaith.

Darllen mwy
Croesawu siaradwyr Cymraeg i’r Coleg

Croesawu siaradwyr Cymraeg i’r Coleg

Cynhaliwyd Diwrnod Croeso yng Ngholeg Gwyr Abertawe i’r bobl ifanc hynny sy’n siarad Cymraeg ac sy’n ymuno efo ni fis Medi.  Bwriad y diwrnod yma oedd croesawu myfyrwyr i un o gampysau’r coleg fel eu bod yn dod i nabod y lleoliad, cwrdd a siaradwyr Cymraeg eraill, cwrdd a rhai o’n staff cyfrwng Cymraeg, a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y Gymraeg yn y Coleg. 

Darllen mwy
Cyfarfod diweddar o’r Bwrdd

Hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o fod yn rhan o Fwrdd Cyflogwyr Diwydiannau Creadigol.

Sefydlwyd yn 2021 gyda thros 30 o gyflogwyr, mae’r Bwrdd yn ceisio meithrin talent, nodi cyfleoedd i bobl ifanc, hyfforddi a mentora, a dathlu cyflawniad.

“Mae’n bwysig iawn cofio bod angen pobl â sgiliau creadigol ar bob sector” meddai’r Cadeirydd Rachael Wheatley, sylfaenydd Waters Creative, asiantaeth sy’n arbenigo mewn dylunio graffig a gwe, brandio a marchnata.

Darllen mwy
Group of students having a chat in a library

Sut rydym yn cefnogi dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon gan y Pennaeth, Mark Jones

Cefnogi dysgwyr i wireddu eu huchelgeisiau mewn amgylchedd ôl-bandemig 

Wrth i ni nesáu at flwyddyn academaidd newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym wrthi’n paratoi i groesawu yn ôl ein myfyrwyr sy’n dychwelyd a chyfarch myfyrwyr newydd fel ei gilydd.

Darllen mwy
Myfyrwyr yn dathlu llwyddiant canlyniadau

Myfyrwyr yn dathlu llwyddiant canlyniadau

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu set wych o ganlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol Lefel 3. 

Darllen mwy
Dathlu ar y cyd i fyfyrwyr AU y Coleg

Dathlu ar y cyd i fyfyrwyr AU y Coleg

Mae gan Lauren Pritchard ac Atlanta Coates, myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, ddau reswm gwych i ddathlu’r Haf hwn.

Mae’r ddwy wedi ennill Gradd Dosbarth Cyntaf (BA) mewn Rheoli Busnes (Cyfrifeg), sef cwrs a gynigir gan y Coleg mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru. Yn ogystal â hyn, maent wedi sicrhau rolau gwych gyda Bevan Buckland LLP.

Darllen mwy
Certificate at Cambridge

Sylw anrhydeddus gan Gaergrawnt!

Mae Legolas, un o’n myfyrwyr rhyngwladol blwyddyn 1af, wedi derbyn sylw anrhydeddus gan Adran Gymdeithaseg Gaergrawnt am ei gyfraniad i’r gystadleuaeth ffotograffiaeth. Thema’r gystadleuaeth oedd Seicoleg Gwytnwch.

Tynnwyd llun Legolas ym mae prydferth Caswell, Abertawe, ar ddiwrnod allan gyda’i deulu homestay. Mae e’n hynod o falch bod ei waith wedi cael ei enwebu a’i gydnabod gan brifysgol mor enwog.

Darllen mwy
Group of students working together

Gwybodaeth am ganlyniadau haf 2022

Dyddiadau canlyniadau cyhoeddedig ar gyfer 2022:

Dydd Iau 18 Awst: Safon Uwch/UG a rhaglenni Lefel 3 CBAC, BTEC, UAL

Dydd Iau 25 Awst: TGAU a rhaglenni Lefel 1/2 CBAC, BTEC, UAL

Darllen mwy