Er ei bod dros 10,000 o filltiroedd i ffwrdd, mae Ysgol Gynradd Madungu yn agos iawn at galon Coleg Gŵyr Abertawe. Yma, mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn esbonio sut mae’r Coleg wedi cefnogi’r ysgol am dros 20 mlynedd - a sut y gallwch chi helpu.
Ar adeg pan mae nifer o deuluoedd yn gorfod delio â’u heriau eu hunain, mae’n wych gweld rhai o’n myfyrwyr y Coleg yn neilltuo amser i feddwl am bobl eraill a helpu’r rhai sydd mewn angen. Mae’r brand penodol hwn o gymorth a chefnogaeth wedi bod yn digwydd am yr 20 mlynedd diwethaf, ac felly mae’n stori ac yn gamp go arbennig i bawb fu’n rhan ohono.
Dechreuodd y cyfan yn 2003, pan dreuliodd un o fyfyrwyr Coleg Abertawe – Coleg Gŵyr Abertawe erbyn hyn – ran o’i flwyddyn i ffwrdd ar brosiect gwirfoddol yn Ysgol Gynradd Madungu yng ngorllewin Cenia, yn agos at y ffin ag Uganda, rhyw wyth awr i’r gorllewin o Nairobi.
Mae ysgolion y Llywodraeth yng Nghenia, yn union fel y rhai yn y DU, yn cael eu rheoleiddio yn seiliedig ar niferoedd disgyblion ond mae maint tybiedig y dosbarthiadau yng Nghenia yn llawer mwy na’r hyn rydym yn ei weld yn y DU – yn aml hyd at 50 o ddisgyblion. O ystyried bod gan yr ardal leol yng ngorllewin Cenia lefel gymharol uchel o dlodi hefyd, nid oedd nifer o’r plant ifanc hyn yn cael y profiad addysg gorau. O ganlyniad, roedd y myfyrwyr yn awyddus i wneud rhywbeth i helpu, ond roedd angen cymorth arnynt ac felly dyma droi at eu ffrindiau yn y Coleg.
Dyna oedd dechrau Prosiect Addysg Gymunedol Cenia – elusen annibynnol a sefydlwyd yn y Coleg lle mae myfyrwyr a staff wedi parhau i gasglu arian dros yr 20 mlynedd diwethaf i dalu am gostau dau athro ychwanegol sydd, yn ei dro, wedi bod yn fuddiol i bob un o’r 300 o ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol bob blwyddyn.
Yn y gorffennol, mae’r elusen hefyd wedi talu am giniawau i’r disgyblion na fyddant fel arall wedi cael pryd poeth, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw ar yr adeiladau a buwch hyd yn oed i ddarparu llaeth ar gyfer y disgyblion.
Yn ystod y cyfnod hwn o 20 mlynedd mae myfyrwyr a staff y Coleg wedi ymweld â Madungu ar bum achlysur, ond ddim o gwbl ers Covid. Felly, rydym yn falch o gyhoedd eleni, gyda chymorth rhaglen Taith Llywodraeth Cymru, y bydd pedwar aelod o staff a 10 myfyriwr yn teithio i Madungu i wneud rhywfaint o addysgu a gwaith gwirfoddol, cwrdd â staff a myfyrwyr yn yr ysgol, a gweld buddion ein gwaith.
Bu cystadlu brwd am leoedd ar y daith ac rwy’n falch bod y myfyrwyr a ddewiswyd yn dod o amrywiaeth eang o feysydd cwricwlwm ar draws y Coleg. Mae eu diddordebau yn amrywio o gymorth rhyngwladol, yr amgylchedd a bywyd gwyllt ac mae gan nifer o’r myfyrwyr ddyheadau gyrfa yn y meysydd hynny yn ogystal ag addysgu a gofal plant.
Yn achos y rhan fwyaf o’r myfyrwyr, hon fydd eu taith gyntaf i Affrica ac, i rai, eu taith gyntaf dramor. Ond mae un peth yn sicr, mae’n brofiad unwaith-mewn-oes a allai newid eu bywydau.
Dros y misoedd nesaf, bydd y myfyrwyr yn brysur yn gwneud gweithgareddau amrywiol i helpu i godi arian ar gyfer yr elusen. Byddan nhw hefyd yn gweithio’n galed i gyllido gweddill costau’r daith eu hunain, ochr yn ochr â’u hastudiaethau a’r arholiadau a’r asesiadau y byddant yn eu sefyll yn yr haf.
Os gallwch ein helpu trwy wneud cyfraniad a fyddai’n mynd tuag at gostau teithio unigol y myfyrwyr a’r profiad unwaith-mewn-oes hwn, rwy’n gwybod y bydd y myfyrwyr yn ddiolchgar iawn.
Dyma sut y gallwch roddi arian:
Trwy ddolen ‘total giving’ yr elusen
https://www.totalgiving.co.uk/donate/kenya-community-education-project
Gellir rhoddi trwy drosglwyddiad banc:
Prosiect Addysg Gymunedol Cenia
Cyfrif HSBC
Cod didoli 40–16–15
Rhif y cyfrif 54351959
Rhif cofrestru’r elusen 1163597
Neu anfonwch i PAGC d/o Tracy Drummond-Govier, Coleg Gŵyr Abertawe, Tycoch, Abertawe, SA2 9EB