Roedd myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yn gyffrous i fynd i Gynhadledd Myfyrwyr ‘Cymru i Bedwar Ban Byd’ ITT Future You ar ddydd Mawrth 27 Chwefror.
Roedd myfyrwyr yn gallu dysgu am yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael o fewn y diwydiant, a chael cyfle i rwydweithio â chyflogwyr i archwilio rhagolygon gyrfa’r dyfodol.
Yn ogystal, cawsant gyfle i wrando ar amrywiaeth o siaradwyr gwadd gan gynnwys arbenigwyr diwydiant o Royal Caribbean International, Myfyriwr Graddedig Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) Aggie Grover sydd yn Bartner Caffael Talent gyda TUI, a Claire Steiner, Cyd-sylfaenydd ITT Future You a Chyfarwyddwr y DU i’r Global Travel and Tourism Partnership.
Cynhaliodd PCDDS gynhadledd a ffair yrfaoedd Future You yn Arena Abertawe am yr ail flwyddyn yn olynol.