Braf oedd croesawu disgyblion o Zhuzhou No. 2 Middle School i Goleg Gŵyr Abertawe fis diwethaf fel rhan o’r rhaglen Ysgol Gaeaf, lle cafwyd cyfle i gysgodi dosbarthiadau Safon Uwch a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau ar draws Abertawe a’r cyffiniau.
Roedd y disgyblion yn ddiolchgar iawn o gael cyfle i fynd i wersi safon uwch a phrofi ein math ni o addysgu, gan nodi’r gwrthgyferbyniad rhwng ein dulliau ni â’u system addysg gartref nhw.
Fe wnaethon nhw wneud y mwyaf o’u hymweliad â Rhosili drwy siarad ag un o’r gwylwyr y glannau lleol, a chafwyd eu gwahodd i’r orsaf i fwynhau golygfa wefreiddiol o Ben Pyrod.
Fe wnaeth y Tîm Cymraeg gynnal sesiwn ar ddiwylliant Cymru i’r myfyrwyr ar gampws Plas Sgeti er mwyn nodi diwrnod Santes Dwynwen, a chafodd bawb gyfle i ddysgu ymadroddion lleol a chreu cardiau i anwyliaid.
Yn ogystal, cymerodd y myfyrwyr ran mewn sesiwn Meddwl yn Feirniadol - a gynhaliwyd gan ein Cydlynwyr Rhydgrawnt - er mwyn gwella eu geirfa Saesneg a sgiliau cyfathrebu ar lafar.
Trwy ymweld â Phrifysgol Abertawe, cafodd y myfyrwyr fewnwelediad i addysg AU yn y DU, a chawsant gyfle i ymweld ag Ysgol y Gyfraith a chymryd rhan mewn ffug weithgareddau llys, dosbarthiadau meistr FHMLS, tasgau yn y labordy fferyllol fel grwpio gwaed yn ogystal â thasgau biowyddoniaeth fel microsgopeg gwaed.
I orffen eu profiad o’r Ysgol Gaeaf fe wnaeth un myfyriwr o Zhuzhou gynnig cyflwyniad da iawn yn Saesneg, gan fyfyrio ar y croeso cynnes Cymreig a dderbyniwyd a’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ac fe wnaeth annog pawb i fod yn agored i ddysgu oddi wrth bobl o bedwar ban y byd.