Skip to main content
Gwobr newydd-ddyfodiad gorau i Tom

Gwobr newydd-ddyfodiad gorau i Tom

Mae aelod o staff Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobr gan y Sefydliad Rheoli Gweithleoedd a Chyfleusterau (IWFM).

Cipiodd Thomas Maddock, sydd yn Rheolwr Ystadau yn y Coleg, Wobr Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn mewn seremoni ddisglair a gynhaliwyd yn Llundain dan ofal Gabby Logan MBE.

IWFM yw’r corff proffesiynol ar gyfer ymarferwyr gweithleoedd a chyfleusterau.

Bwriad gwobr Newydd-ddyfodiad yw datguddio talent newydd eithriadol yn y proffesiwn, gan nodi unigolion sydd wedi cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth gwasanaethau rheoli gweithleoedd a chyfleusterau o fewn y tair blynedd cyntaf ers ymuno â’r proffesiwn.

“Ers mentro i fyd rheoli cyfleusterau, dwi wedi cwympo mewn cariad â’r diwydiant,” meddai Tom. “Mae’r angerdd hwnnw wedi tanio fy mrwdfrydedd yn fy ngwaith a’m datblygiad personol. Mae cael fy nghydnabod mor gynnar yn fy ngyrfa, yn enwedig o fewn maes mor amrywiol a thalentog, yn un o’r cyflawniadau dwi’n fwyaf balch ohono hyd yma.  

“Hoffwn i ddiolch i’r Sefydliad Rheoli Gweithleoedd a Chyfleusterau am yr anrhydedd anhygoel hwn ac am y gwaith maen nhw’n ei wneud wrth hyrwyddo rhagoriaeth ar draws ein proffesiwn.  

“Nid yn unig mae’r wobr hon yn garreg filltir bersonol ond mae hefyd yn adlewyrchu’r cymorth a’r cyfleoedd anhygoel dwi wedi eu cael gan fy sefydliad a’r tîm. Mae eu hanogaeth wedi bod yn allweddol i’m twf a dwi’n ddiolchgar i fod yn rhan o weithle sy’n hyrwyddo datblygiad, uchelgais a chynhwysiant.”  

Ymunodd Tom â’r Coleg ym mis Rhagfyr 2022 fel Swyddog Ystadau a chafodd ei ddyrchafu y flwyddyn ganlynol i rôl Rheolwr Ystadau (Cyfleusterau Caled).