Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad blynyddol sy’n taflu goleuni ar y rôl hollbwysig y mae prentisiaethau yn ei chwarae wrth lunio gweithlu’r dyfodol, gan rymuso dysgwyr a llywio llwyddiant busnes.
Eleni, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu’r ymgyrch gydag wythos o weithgareddau gan gynnwys ffair recriwtio, seremoni wobrwyo, a chyfres o sesiynau gwybodaeth ar gyfer unigolion a chyflogwyr fel ei gilydd.
Roedd y Coleg hefyd yn falch o groesawu Eluned Morgan AoS, Prif Weinidog Cymru, i Ysgol Fusnes Plas Sgeti lle cwrddodd â staff a myfyrwyr o amrywiaeth o lwybrau prentisiaeth gan gynnwys arweinyddiaeth a rheolaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, cyfrifeg, a thai.
Daeth tua 900 o bobl i’r Ffair Prentisiaethau a Recriwtio ar Gampws Tycoch, lle roeddent yn gallu siarad â staff y Coleg ynghylch sut i fanteisio ar brentisiaethau. Yn bresennol hefyd i hyrwyddo eu cyfleoedd prentisiaeth roedd dros 50 o sefydliadau lleol â chysylltiadau agos â’r Coleg gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Abertawe, Ecolab, DVSA a Great Western Railway.
Cynhaliwyd seremoni gwobrau prentisiaethau arbennig yn Stadiwm Swansea.com i anrhydeddu ymrwymiad rhagorol prentisiaid, staff a chyflogwyr partner y Coleg ledled Cymru a Lloegr. Dan ofal y cyflwynydd/darlledydd Ross Harries, cafodd dros 40 o wobrau eu cyflwyno i enillwyr teilwng yn ystod y digwyddiad. Y siaradwr gwadd oedd Joseph Lennox, eiriolwr prentisiaethau ac uwch gynghorwr polisi CThEF.
“Mae prentisiaethau yn faes blaenoriaeth allweddol i nifer o gyflogwyr o ran bodloni’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu a thyfu eu busnes,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain. “Dwi wrth fy modd, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod y Coleg wedi gallu ymateb i’r galw hwn mor gadarnhaol, gyda thros 2,500 o brentisiaid bellach wedi’u cofrestru gyda ni ar unrhyw un adeg. Mae ein rhaglenni prentisiaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac maen nhw wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli, Gwobrau AB TES, Gwobrau’r Gynhadledd Prentisiaethau Flynyddol a Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau.
“Dwi wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025 gyda chynifer o ddigwyddiadau amrywiol a diddorol. Daeth bron 1,000 o ddysgwyr a rhieni i’n ffair recriwtio ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol dros ben, gyda llawer bellach yn teimlo’n fwy hyderus ac yn wybodus am ddewis llwybr prentisiaeth.
“Anrhydedd mawr oedd croesawu’r Prif Weinidog i Blas Sgeti hefyd lle cafodd hi gyfle i gwrdd â rhai o’n carfan bresennol o ddysgwyr a chlywed ganddyn nhw yn sôn faint maen nhw wedi elwa ar eu prentisiaeth ac ar gymorth parhaus y Coleg.”
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Roedd hi’n wych ymweld â Choleg Gŵyr Abertawe a chwrdd â chynifer o brentisiaid ar gyfer Wythnos Prentisiaethau Cymru.
“Mae prentisiaethau yn ffordd ardderchog o fentro i broffesiwn gwerth chweil, gyda chyfleodd ar draws Cymru i bobl o bob oedran. Mae prentisiaethau’n cwmpasu popeth o’r diwydiannau adeiladu a chreadigol, o ynni a’r amgylchedd, o wasnaethau ariannol a phroffesiynol, i dwristiaeth a’r gwyddorau bywyd.
“Pob lwc i’r prentisiaid a’r myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar gyfer gweddill eich hyforddiant ac yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol!”