Skip to main content

Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ôl ar gyfer 2025, dathliad blynyddol sy’n tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae prentisiaethau yn ei chwarae wrth lunio gweithlu’r dyfodol, grymuso dysgwyr a llywio llwyddiant busnes.

Eleni mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn rhedeg rhwng dydd Llun 10 tan ddydd Sul 16 Chwefror, lle mae cyflogwyr, colegau, ysgolion a mwy yn dod at ei gilydd i arddangos y cyfleoedd sy’n newid bywyd y mae prentisiaethau yn eu darparu a’u cyfraniad sylweddol i’r economi.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, byddwn ni’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyn yr wythnos ac yn ystod yr wythnos i ddathlu ac egluro prentisiaethau:

  • Ddydd Mercher 5 Chwefror, bydd y Coleg yn cynnal Ffair Prentisiaethau, digwyddiad penodedig i bobl o bob oedran i ddysgu rhagor am ein prentisiaethau clodfawr, cwrdd â chyflogwyr a chael cymorth gyrfa/prentisiaeth.
  • Ddydd Llun 10 Chwefror, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal ei Wobrau Prentisiaethau blynyddol. Bydd y seremoni yn dathlu cyflawniadau prentisiaid, cyflogwyr a staff o bob maes pwnc!
  • Yn olaf, o ddydd Llun 10 tan 14 Chwefror, bydd sesiynau gwybodaeth prentisiaethau yn cael eu cynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams - mae’r manylion i’w gweld isod!

Cofrestrwch ar gyfer ein Ffair Prentisiaethau

Sesiynau Gwybodaeth Prentisiaethau

Dydd Llun 10 Chwefror
10.00am - 10.30am: Adeiladu Pontydd: Prentisiaethau Datblygu Cymunedol

Ymunwch â ni i archwilio ein cymhwyster Datblygu Cymunedol, sy’n addas ar gyfer unigolion sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth. Mae’r brentisiaeth yn rhoi sgiliau i ddysgwyr fel y gallant feithrin a chynnal perthnasoedd ystyrlon o fewn cymunedau. Mae’r brentisiaeth hefyd yn cwmpasu egwyddorion cyfrifoldebau corfforaethol a chynaliadwyedd er mwyn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn, gan hybu newid cadarnhaol.

Cofrestrwch yma.

Dydd Mawrth 11 Chwefror
2.00pm - 2.30pm: Dylunio ar gyfer pobl: Prentisiaethau Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (UX) 

Ymunwch â’r gweminar i ddarganfod sut gall prentisiaethau Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr wella cyfleoedd gyrfa a lefelau gallu.

Datblygwyd y prentisiaethau gan arweinwyr o fewn diwydiant ac maent yn ffordd o roi arbenigedd i ddysgwyr fel y gallant ddylunio profiadau hygyrch ac effeithiol ar ystod o blatfformau. P'un a ydych yn unigolyn sy'n dymuno uwchsgilio neu ddechrau gyrfa newydd, neu yn gyflogwr sy'n ceisio gwella gallu eich tîm, bydd y sesiwn hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut y gall y prentisiaethau helpu eich tîm i greu gwefannau a rhaglenni defnyddiol iawn, er mwyn diwallu nodau busnes a defnyddwyr.

Cofrestrwch yma.

Dydd Mercher 12 Chwefror
12.00pm - 12.30pm: Eich llwybr i lwyddiant: Symleiddio prentisiaethau ar gyfer busnesau a sefydliadau

Mae prentisiaethau yn ateb cost-effeithiol i strategaeth hyfforddi a recriwtio sefydliadau, ac maent yn galluogi unigolion i uwchsgilio a chyflawni twf gyrfaol. Bydd y sesiwn hon yn mynd i’r afael â mythau cyffredin ynghylch prentisiaethau, gan gynnwys cyllid, cyfyngiadau oedran a mannau cychwyn.

Cofrestrwch yma.

1.00pm - 1.30pm: Cwrdd â’r Arbenigwyr: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

Cofrestrwch yma.

Dydd Iau 13 Chwefror
12.00pm - 12.30pm: Eich llwybr i lwyddiant: Symleiddio prentisiaethau ar gyfer busnesau a sefydliadau

Mae prentisiaethau yn ateb cost-effeithiol i strategaeth hyfforddi a recriwtio sefydliadau, ac maent yn galluogi unigolion i uwchsgilio a chyflawni twf gyrfaol. Bydd y sesiwn hon yn mynd i’r afael â mythau cyffredin ynghylch prentisiaethau, gan gynnwys cyllid, cyfyngiadau oedran a mannau cychwyn.

Cofrestrwch yma.

1.30pm - 2.30pm: Eich llwybr tuag at ddod yn Beiriannydd Nwy a Gwres Canolog: Holi ac Ateb

Wyt ti’n barod i danio gyrfa newydd fel Peiriannydd Nwy a Gwres Canolog? Ymuna â’r sesiwn Holi ac Ateb i gael atebion i dy gwestiynau am ein prentisiaeth. 

Mae’r brentisiaeth yn berffaith ar gyfer gweithio ym maes domestig a bydd yn caniatáu dysgwyr i ennill sgiliau gosod a chynnal a chadw nwy, er mwyn iddynt symud ymlaen i wneud cais am dystysgrif Cofrestr Diogelwch Nwy yng nghategorïau CCN1 a CENWAT.

Cofrestrwch yma.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ar gyfer Wythnos Prentisiaethau Cymru neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cliciwch yma i weld ein Prentisiaethau Gwag diweddaraf.

E-bost: hello@gcs.ac.uk
Ffôn: 01792 284400