Skip to main content
Energybuild Ltd yn sicrhau elw blynyddol o £1.2 miliwn trwy hyfforddiant a ariennir yn llawn

Energybuild Ltd yn sicrhau elw blynyddol o £1.2 miliwn trwy hyfforddiant a ariennir yn llawn

Mae partneriaeth rhwng Coleg Gŵyr Abertawe ac Energybuild Ltd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn yn weithredol ac yn ariannol. Mae’r bartneriaeth wedi manteisio ar gymwysterau Technegau Gwella Busnes (TGB) sy’n cwmpasu testunau megis effeithlonrwydd gweithredol, arbed arian a chynhyrchiant yn y gweithle.

Bwriad cymwysterau TGB yw rhoi sgiliau a gwybodaeth i weithwyr fel y gallant nodi a gweithredu gwelliannau o fewn eu sefydliad. Maent yn cael cyfle i ddysgu am gysyniadau darbodus (megis Kaizen) a dulliau sy’n hyrwyddo gwelliant parhaus. Maent hefyd yn dysgu ffyrdd o hybu staff i wneud newidiadau bach a chanolig gyda’i gilydd i sicrhau manteision sylweddol a hirdymor.

Fel rhan o’r rhaglen, dysgodd staff Energybuild am egwyddorion darbodus er mwyn gwella effeithlonrwydd prosesau symud offer a bolltio toeau. Trwy ddadansoddi llifau gwaith presennol, nodi arferion gwastraffus a chyflwyno gwelliannau ymarferol, llwyddodd y tîm i ganfod dulliau cyflymach, mwy effeithlon a chost-effeithiol o weithio.

Dywedodd Brian Thomas, Rheolwr Hyfforddiant ac AD Mines Rescue ac Energybuild Limited:

“I ddechrau fe wnaethon ni gofrestru staff ar y cwrs tri diwrnod. Roedd yn llwyddiant mawr a diolch i Joe Coates am ddarpariaeth wych. Fe wnaethon ni ddarganfod yn gyflym sut y gall y cyrsiau Darbodus wella ein prosesau yn sylweddol.

Yn ystod y rhaglen fe wnaethon ni ganolbwyntio ar ddau faes allweddol: symud ymlaen o fewn yr ardal a’r broses bolltio toeon, ac fe gawson ni ein rhannu’n dimau i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Roedd y canlyniadau yn nodi un peth yn glir: byddai’r cwmni yn elwa yn sylweddol o hyfforddiant Darbodus. Rydyn ni’n bwriadu hyfforddi mwy o staff yn 2026 gan obeithio cynnwys ein hadrannau peirianneg.”

Mae’r gwelliannau wedi arwain at newidiadau sylweddol. Cyn yr hyfforddiant, roedd y broses o “symud” yn cynnwys dwy ran, ond trwy symleiddio’r broses mae dysgwyr wedi llwydo i gael gwared ar un rhan - sydd wedi arbed tua £3,559.60 i’r sefydliad ar gyfer pob awr a enillwyd. Ar gyfer sifft naw awr, mae hyn yn cyfrif fel arbediad o tua £32,036 fesul symudiad i fyny.

Os yw hyn yn cael ei addasu ar gyfer penwythnosau a chostau sefydlog, mae £20,000 yn cael ei arbed bob symudiad i fyny. Os yw symudiadau i fyny yn digwydd bob pythefnos a hanner, gallai'r gwelliant hwn yrru arbedion blynyddol o tua £416,000.

Yn ogystal ag arbedion ariannol, mae'r effeithlonrwydd cynyddol wedi arwain at botensial i gynhyrchu mwy o elw. Gyda phris gwerthu cyfartalog o £259 y dunnell o lo a chynnyrch cyfartalog o 47%, mae pob toriad metr yn cynhyrchu tua 21.15 tunnell o lo glân. Ar gyfer toriad saith metr, mae hyn yn 148.05 tunnell, sydd yn cynhyrchu elw o £38,344.95 mewn refeniw.

Os cwblheir sifft torri ychwanegol bob tro wrth gyflawni symudiad i fyny, byddai hyn yn arwain at gynnydd blynyddol mewn refeniw o tua £797,574.96. Gan gyfuno'r ffigurau hyn, mae’n bosib y gallai Energybuild weld cyfanswm ariannol blynyddol o tua £1.21 miliwn, sy'n adlewyrchiad grymus tu hwnt o sut mae gwelliant parhaus yn cyfrannu'n uniongyrchol at lwyddiant busnes.

Ychwanegodd Paul Rogers, Pennaeth Ymgysylltu â Chyflogwyr Coleg Gŵyr Abertawe:

“Braf yw gweld cwmni lleol yn parhau i gynnig swyddi da i’r gymuned gan dorri tir newydd mewn marchnadoedd newydd er mwyn sicrhau bywoliaeth cenedlaethau’r dyfodol.

I sicrhau eu bod yn ehangu ac yn datblygu fel busnes, mae Energybuild yn buddsoddi yn eu staff gan ddatblygu darpar arweinwyr a rheolwyr drwy eu hannog i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi megis prentisiaethau a chyrsiau proffesiynol eraill. Mae’r sefydliad wedi gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe am 22 mlynedd, a hir oes i’r bartneriaeth hon.” 

Mae’r enghraifft hon yn dangos sut y gall cymwysterau Technegau Gwella Busnes drawsnewid prosesau yn ogystal â ffyrdd o feddwl. Drwy gyfuno hyfforddiant ymarferol â phrofiadau ymarferol yn y byd go iawn, mae'r Coleg yn helpu cyflogwyr fel Energybuild i ymgorffori diwylliant o welliant parhaus ac arloesedd sy'n arwain at effeithiau mesuradwy.

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni Technegau Gwella Busnes neu'r ystod eang o gymorth sydd ar gael i gyflogwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, e-bostiwch training@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284400.