Skip to main content

Diweddariad Covid-19 – gorchuddion wyneb

Fel y byddwch chi i gyd yn gwybod siŵr o fod, mae amrywiolyn newydd o feirws Covid-19 o’r enw Omicron.

Yn unol â chanllawiau newydd Llywodraeth Cymru, dylai’r holl fyfywrwyr wisgo gorchuddion wyneb nawr pan fyddan nhw dan do ar draws pob campws.

Rydyn ni eisoes yn gweithredu ar y sail hon, ond nawr gofynnir i chi wisgo eich gorchudd wyneb:

  • Pan fyddwch chi yn yr ystafelloedd dosbarth
  • Pan fyddwch chi mewn ystafelloedd cyffredin - oni bai eich bod yn bwyta/yfed.

Daliwch ati i wisgo’ch gorchudd wyneb:

  • Wrth symud o amgylch y campws
  • Wrth deithio ar gludiant cyhoeddus a chludiant Coleg.

Mae gorchuddion wyneb ar gael ar y campws, ond rydyn ni’n eich annog i ddod â’ch gorchudd wyneb eich hun a’i gadw arnoch chi bob amser. Bydd hyn yn ein helpu i leihau gwastraff.

Eithriadau

  • Os ydych chi wedi’ch eithrio, dangoswch eich bathodyn/laniard bob amser.
  • Os ydych chi’n cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol neu weithgaredd awyr agored, gallwch chi dynnu’ch gorchudd wyneb dim ond os yw asesiadau risg yn caniatáu a bod pellhau corfforol yn bosibl.

Byddwn ni hefyd yn parhau i sicrhau bod awyru digonol ym mhob ystafell ddosbarth ac felly bydd drysau a ffenestri yn aros ar agor.

Mesur rhagofal dros dro yw hwn, er mwyn sicrhau diogelwch pawb yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig a bydd yn cael ei adolygu yn ystod yr wythnosau nesaf.