Skip to main content
 

Gwybodaeth bwysig am gasglu canlyniadau ym mis Awst!

Bydd eich canlyniadau yn barod i’w casglu ar y dyddiadau canlynol:

  • Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 a Bagloriaeth Cymru: Dydd Iau 14 Awst o 9.15am
  • TGAU a Galwedigaethol Lefel 2: Dydd iau 21 Awst o 9.15am.

Bydd eich canlyniadau hefyd ar gael ar-lein ar eich eGDU. Dewch â’ch cerdyn adnabod gyda chi i gasglu eich canlyniadau. Os oes rhywun arall yn casglu eich canlyniadau, bydd angen i chi ddarparu caniatâd ysgrifenedig a bydd angen i’r unigolyn sy’n casglu eich canlyniadau ddod â cherdyn adnabod. Ni fyddwn yn darparu canlyniadau dros y ffôn / e-bost.

Pwysig: Oherwydd y gwaith adnewyddu ar gampws Gorseinon, bydd mannau parcio yn gyfyngedig - defnyddiwch faes parcio Bloc A/Bloc Celfyddydau.

11 cynnig i Brifysgol Rhydychen neu Gaergrawnt yn 2026

Group photo of Oxbridge students

Newyddion a Digwyddiadau

Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau rhagorol wrth i’r gyfradd basio Safon Uwch gyrraedd 100% am yr ail flwyddyn yn olynol

Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau rhagorol wrth i’r gyfradd basio Safon Uwch gyrraedd 100% am yr ail flwyddyn yn olynol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau gwych eleni wrth i’r gyfradd basio Safon uwch gyrraedd 100% am yr ail flwyddyn yn olynol (cyfartaledd cenedlaethol Cymru yw 97.5%).

Degree apprentice Lewys Brill pictured in his workplace.

Gwahoddiad i gyflogwyr fuddsoddi yn nhalent y dyfodol drwy Brentisiaethau Gradd ac Uwch wedi’u hariannu’n llawn a gynigir gan Goleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n gwahodd cyflogwyr i archwilio’r Prentisiaethau Gradd ac uwch sydd ar gael o fis Medi 2026.

a student being handed her results

Sut i gael dy ganlyniadau arholiadau / cymwysterau Awst 2026

Os oes gennyt ti ddiwrnodau canlyniadau penodedig, dylet ti gadw llygad allan am wahoddiad gennym ni w/d dydd Llun 3 Awst.

 

Broadway

Mae ein myfyrwyr yn darparu triniaethau o’r ansawdd gorau am bris anhygoel yn ein salonau o safon broffesiynol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau steilio a lliwio gwallt gan ddefnyddio’r brandiau salon gorau.

 

Canolfan Chwaraeon

Mae’r cyfleusterau yn y Ganolfan Chwaraeon yn cynnwys campfa, neuadd chwaraeon, ystafell troelli/beicio dan do ac ystafell codi pwysau. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, fel pilates, troelli a hyfforddiant dwyster uchel.

 

Vanilla Pod

Mae bwyty’r Vanilla Pod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o’r cyrsiau arlwyo a lletygarwch ddatblygu eu sgiliau ymarferol ac ennill profiad gwerthfawr mewn cegin a bwyty proffesiynol.

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud...