Ymgynghorydd Swyddogaethol Cysylltiol Power Platform Microsoft Ardystiedig PL200 - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bydd y cymhwyster hwn yn eich dysgu sut i ddefnyddio Microsoft Power Platform i symleiddio, awtomeiddio a grymuso prosesau busnes ar gyfer sefydliadau, gan weithredu fel Ymgynghorydd Gweithredol.
Mae Ymgynghorydd Gweithredol Microsoft Power Platform yn gyfrifol am greu a ffurfweddu cymwysiadau, awtomeiddiadau ac atebion. Maent yn gyfrifol am weithredu fel cyswllt rhwng y defnyddwyr â’r tîm gweithredu.
Mae'r ymgynghorydd swyddogaethol yn hyrwyddo'r defnydd o atebion o fewn sefydliadau, gan wneud gwaith canfod, ynghyd ag ymgysylltu ag arbenigwyr pwnc a rhanddeiliaid ac ymgymryd â gofynion cipio a mapio gofynion a nodweddion. Maent yn gweithredu cydrannau atebion gan gynnwys gwella cymhwysiad, profiadau defnyddwyr cwsmeriaid, integreiddiadau system, trawsnewid data, awtomeiddio prosesau personol ac ymgymryd â gwaith delweddu syml.
Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft PL200, er mwyn ennill statws achrededig PL200.
Mae sefyll yr arholiad PL200 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth allweddol
Dylai ymgeiswyr sydd am astudio’r cwrs hwn fod yn gallu gwneud gwaith canfod, casglu gofynion, ymgysylltu ag arbenigwyr pwnc a rhanddeiliaid, yn ogystal â ffurfweddu datrysiadau busnes trwy ddefnyddio offer a chydrannau Microsoft Power Platform. Dylai ymgeiswyr hefyd greu gwelliannau personol i gymwysiadau a phrofiadau defnyddwyr. Byddant hefyd yn gorfod awtomeiddio prosesau.
Fel ymgeisydd, byddwch yn gweithredu'r dyluniad a ddarperir, ac mewn cydweithrediad â phensaer atebion ac wrth gydymffurfio â'r safonau, byddwch yn ymgymryd â gwaith sy’n gysylltiedig â brandio ac arteffactau a gyflwynir gan ddylunwyr profiad defnyddwyr. Byddwch yn gweithredu integreiddiadau gan ddefnyddio rhaglenni a gwasanaethau trydydd parti, yn ogystal â hwyluso hyfforddiant a chynhyrchu dogfennaeth hyfforddi.
Rhaid i ymgeiswyr allu rhyngweithio a chyfathrebu'n effeithiol ag aelodau’r tîm cyflwyno a rhanddeiliaid a thimau cwsmeriaid eraill. Rhaid iddynt feddu ar ddealltwriaeth o arferion rheoli cylch bywyd a sicrwydd ansawdd cymwysiadau (ALM) megis Microsoft Power Platform ac ati.
Byddant yn gyfarwydd â defnyddio Microsoft Dataverse, Power Apps, llifoedd cwmwl Power Automate, cydrannau amgylcheddau Power Pages a Power Platform, a byddant yn hyderus yn defnyddio meddalwedd modelu data, gan ddylunio profiad y defnyddiwr a dadansoddi gofynion amrywiol.
Unedau’r cwrs:
- Dechrau defnyddio Dataverse.
- Rheoli hawliau a gweinyddu ar gyfer Dataverse.
- Delweddu, mewnforio ac allforio data Microsoft Dataverse.
- Meithrin perthnasoedd a chreu rheolau busnes a cfyfrifiadau trwy ddefnyddio Dataverse.
- Ffurfweddu ffurflenni, siartiau a dangosfyrddau mewn apiau sy'n cael eu pweru gan fodel.
- Defnyddio cydrannau arbenigol ar ffurf sy'n cael ei hybu gan fodd a llawer mwy!
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud Data â Power Platform.