Skip to main content

Datblygwr Platfform Pŵer Cysylltiol Ardystiedig Microsoft (PL400) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Pedwar Diwrnod

Telephone: 01792 284400 Email: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae'r cymhwyster hwn yn helpu sefydliadau i wneud y mwyaf o’u gweithrediadau trwy symleiddio, awtomeiddio a thrawsnewid tasgau a phrosesau busnes. 

Bydd dysgwyr yn gwybod sut i greu Apiau Pŵer, Llifiau Awtomataidd, yn ogystal ag ehangu platfformau i fynd i’r afael â gofynion busnes a phroblemau cymhleth sy’n gysylltiedig â phrofiad y defnyddiwr (cwsmer), integreiddiadau system, trawsnewid data, awtomeiddio prosesau cwsmeriaid a delweddu personol. Bydd dysgwyr hefyd yn ennill dealltwriaeth gymhwysol o wasanaethau Power Platform, gan gynnwys gwybodaeth am alluoedd, terfynau a chyfyngiadau’r meddalwedd.

Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft PL400, er mwyn ennill statws achrededig PL400.

Mae sefyll arholiad PL400 yn ofyniad gorfodol er mwyn sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ddysgwyr feddu ar:

  • Dealltwriaeth gymhwysol o wasanaethau Power Platform, gan gynnwys gwybodaeth am alluoedd, terfynau a chyfyngiadau’r meddalwedd.
  • Gwybodaeth gyhwysol am arferion rheoli cylch bywyd Microsoft Power Platform, gan gynnwys awthentigeiddiad, diolgelwch a chymwysiad (ALM) .
  • Gwybodaeth gymhwysol am offer datblygu Microsoft Power Platform, gan gynnwys CLI fel rhan o lif gwaith y datblygwr. 

Dylai fod gan ddysgwyr brofiad o ddatblygu meddalwedd megis JavaScript, JSON, TypeScript, C#, HTML, .NET, Microsoft Azure, Microsoft 365, RESTful Web Services, ASP.NET a Power BI.

Mae unedau'r cymhwyster yn cynnwys:

  • Apiau a ddefnyddir modelau Dataverse
  • Apiau a ddefnyddir modelau PowerApps
  • Table sin Dataverse
  • Creu a rheoli colofnau a thablau gan ddefnyddio Dataverse
  • Defnyddio ‘choices’ yn Dataverse
  • Creu cyswllt rhwng table sin â Dataverse
  • Dechrau defnyddio rolau diogelwch yn Dataverse a llawer mwy!

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud ag apiau Power Platform.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.

Off