Skip to main content

Uwchgylchu dillad a ffabrigau tecstilau

Rhan-amser
Lefel Mynediad 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Tri diwrnod
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth, un diwrnod yr wythnos dros gyfnod o dair wythnos.

Mae pob sesiwn yn archwilio techneg uwchgylchu wahanol, gan drawsnewid hen ddillad neu ddillad ail-law yn ddillad a chyfwisgoedd y byddwch yn falch o’u gwisgo.

Sashiko stitch

Diwrnod un

Technegau arwyneb addurnol

Trowch eich hen ddillad gwely neu ail-law yn sgert llinell-A hardd, gan ddefnyddio technegau pwytho sashiko, appliqué a/neu dechnegau brodio i addurno’r arwyneb a chreu dilledyn sy’n unigryw i chi.

Dewch â

• Hen ddillad gwely neu rai ail-law.

Tie dye cloths drying on rack

Diwrnod dau

Technegau lliwio

Dewch â hen ddilledyn cotwm, lliain neu fiscos neu un ail-law, fel sgert, ffrog neu drwser a’i drawsnewid gan ddefnyddio technegau shibori a lliwio tei.

Dewch â

Sgert, ffrog neu drwser, gan sicrhau bod y dilledyn yn gotwm, lliain neu fiscos fel bod y broses liwio yn gallu bod yn llwyddiannus.

Denim tote bag displayed on chair

Diwrnod tri

Technegau ail-lunio

Rhowch fywyd newydd i hen jîns trwy eu hailddychmygu yn fag tôt steilus, gan ddefnyddio technegau clytwaith, appliqué a smocwaith.

Dewch â

Hen jîns neu rai ail-law.

Gwybodaeth allweddol

Dim gofynion mynediad.

Bydd yr holl dechnegau’n cael eu dangos i chi a bydd dysgwyr yn defnyddio’r technegau hyn i drawsnewid yr eitemau sydd gyda nhw.

Bydd technegau yn cynnwys pwytho â llaw ac â pheiriant a lliwio ffabrig.

Addysgir y cwrs hwn yn yr ystafell ddosbarth, un diwrnod yr wythnos dros gyfnod o dair wythnos.

Does dim asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, gan mai’r holl eitemau sy’n cael eu gwneud gan ddefnyddio’r technegau amrywiol fydd sylfaen y cymhwyster hwn.

Rhaid i ddysgwyr ddod i bob un o’r tair sesiwn oherwydd bydd angen tair eitem wahanol wedi’u huwchgylchu arnyn nhw er mwyn ennill y cymhwyster. 

Mae gan y cwrs hwn ffi stiwdio o £70 sy’n daladwy yn eich sesiwn gyntaf.

Off