Pensaer Seiberddiogelwch Arbenigol Ardystiedig Microsoft (SC100) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn gwrs lefel uwch, arbenigol sy’n paratoi dysgwyr gan roi arbenigedd iddynt fel y gallant ddylunio a gwerthuso strategaethau seiberddiogelwch yn y meysydd canlynol:
- Zero Trust
- Cydymffurfiaeth Risg Llywodraethu (GRC)
- Gweithrediadau Diogelwch (SecOps)
- Data a chymwysiadau
Bydd dysgwyr yn dysgu sut i ddylunio a datrysiadau gan ddefnyddio egwyddorion ‘Zero Trust’. Byddant hefyd yn dysgu sut i bennu gofynion diogelwch ar gyfer seilwaith cwmwl, gan ddefnyddio modelau gwasanaeth megis SaaS, Pas ac IaaS.
Bydd dysgwyr yn cael derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad SC100, er mwyn ennill statws achrededig.
Mae sefyll yr arholiad SC100 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth allweddol
Er nad yw hyn yn ofynnol, anogir dysgwyr gwblhau ardystiad cysylltiol arall ym maes diogelwch, cydymffurfio a hunaniaeth (AZ500, SC200 neu SC300) cyn dechrau’r cwrs hwn.
Bydd gan ddysgwyr brofiad a gwybodaeth uwch mewn ystod eang o feysydd peirianneg diogelwch, gan gynnwys hunaniaeth a mynediad, amddiffyn platfformau, gweithrediadau diogelwch, diogelu data a diogelu cymwysiadau. Bydd ganddynt hefyd brodiad o weithredidau hybrid a chwmwl.
Testunau
- Dylunio atebion sy'n cyd-fynd ag arferion gorau a blaenoriaethau diogelwch
- Dylunio gweithrediadau diogelwch, hunaniaeth a galluoedd cydymffurfio.
- Dylunio atebion diogelwch ar gyfer cymwysiadau a data.
- Dylunio atebion diogelwch ar gyfer seilwaith
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweithrediadau Diogelwch Azure a rolau Diogelwch Rhwydwaith.
Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.