Dadansoddwr Gweithrediadau Diogelwch Cysylltiol Arydstiedig Microsoft (SC200) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ymchwilio ac ymateb i fygythiadau a chwilio amdanynt gan ddefnyddio Microsoft Sentinel, Microsoft Defender XDR a Microsoft Defender ar gyfer y Cloud.
Bydd dysgwyr yn gwybod sut i fynd i’r afael â seiberfygythiadau trwy ddefnyddio'r technolegau hyn, gan ffurfweddu a defnyddio Microsoft Sentinel a Kusto Query Language (KQL) i ganfod, dadansoddi a riportio bygythiadau.
Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio ym maes gweithrediadau diogelwch.
Bydd dysgwyr yn cael derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad SC200, er mwyn ennill statws achrededig SC200.
Mae sefyll arholiad SC200 yn ofyniad gorfodol er mwyn sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth allweddol
Bydd dysgwyr yn gyfarwydd â’r canlynol
- Microsoft 365
- Gwasanaethau cwmwl Azure
- Windows a systemau gweithredu Linux
Mae unedau'r cymhwyster yn cynnwys:
- Lleihau bygythiadau gan ddefnyddio Microsoft Defender XDR
- Lleihau bygythiadau gan ddefnyddio Microsoft Copilot ar gyfer Diogelu
- Lleihau bygythiadau gan ddefnyddio Microsoft Purview
- Creu ymholiadau ar gyfer Microsoft Sentinel gan ddefnyddio Kusto Query Language (KQL)
- Uwchlwytho cofnodion i Microsoft Sentinel
- Defnyddio Microsoft Sentinel i ddarganfod bygythiadau a llawer mwy!
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweithrediadau Platfform Azure, Gweinyddu a Diogelwch.
Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.