Skip to main content

Peiriannwr Diogelwch Azure Cysylltiol Ardystiedig Microsoft (AZ700) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Pedwar Diwrnod

Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addysgu dysgwyr sut i weithredu, rheoli a monitro diogelwch ar gyfer adnoddau Azure, amgylcheddau aml-gwmwl a hybrid (fel rhan o seilwaith pen-wrth-ben).

Bydd ymgeiswyr yn archwilio hunaniaeth a hygyrchedd data, cymwysiadau a rhwydweithiau, gan ddysgu sut i reoli'r system ddiogelwch. Byddant yn nodi gwendidau gan fynd i’r afael â nhw, canfod bygythiadau a gweithredu amddiffyniadau i atal bygythiadau.

Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft AZ500, er mwyn ennill statws achrededig AZ500.

Mae sefyll yr arholiad AZ500 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth allweddol

Dylai fod gan ddysgwyr brofiad ymarferol o weinyddu Microsoft Azure ac amgylcheddau hybrid, yn ogystal â bod yn gyfarwydd â chyfrifiadura, rhwydweithiau a systemau storio Azure a Microsoft Entra ID.

Llwybr dysgu 1: Rheoli hunaniaeth a mynediad

  • Rheoli hunaniaeth gan ddefnyddio Microsoft Entra ID
  • Rheoli dilysu trwy ddefnyddio Microsoft Entra ID
  • Rheoli mynediad trwy ddefnyddio Microsoft Entra ID
  • Rheoli mynediad i geisiadau gan ddefnyddio Microsoft Entra ID

Llwybr dysgu 2: Rhwydweithio diogel

  • Cynllunio a gweithredu mesurau diogelwch ar gyfer rhwydweithiau rhithwir
  • Cynllunio a gweithredu mesurau diogelwch ar gyfer adnoddau Azure
  • Cynllunio a gweithredu mesurau diogelwch ar gyfer adnoddau cyhoeddus Azure

Llwybr dysgu 3: Cyfrifiadura, storfeydd a chronfeydd data diogel

  • Cynllunio a gweithredu systemau diogelwch uwch at ddibenion cyfrifiannu
  • Cynllunio a gweithredu diogelwch ar gyfer storio
  • Cynllunio a gweithredu systemau diogelwch ar gyfer Cronfeydd Data Azure SQL ac Azure SQL

Llwybr dysgu 4: Rheoli gweithrediadau diogelwch

  • Cynllunio, gweithredu a rheoli’r broses lywodraethol ar gyfer diogelwch
  • Rheoli diogelwch trwy ddefnyddio Microsoft Defender ar gyfer y Cwlwm 
  • Ffurfweddu a rheoli proses amddiffyn bygythiadau trwy ddefnyddio Microsoft Defender ar y Cwmwl.
  • Ffurfweddu a rheoli atebion monitro diogelwch ac awtomeiddio.

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweithrediadau Platfform Azure, Gweinyddu a Diogelwch.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.

Off