Skip to main content

Gweinyddwr Diogelwch a Chydymffurfiaeth Gwybodaeth Cysylltiol Achrededig Microsoft (SC400) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Pedwar Diwrnod

Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu sut i ddiogelu gwybodaeth wrth ddefnyddio Microsoft 365.

Gan ganolbwyntio ar reoli cylch bywyd data a chydymffurfio â rheoliadau eich sefydliad, bydd y cwrs yn ymdrin â pholisïau atal data, mathau o wybodaeth sensitif, labeli sensitifrwydd, polisïau cadw data, Microsoft Purview Message Encryption, archwilio, eDiscovery, rheoli risgiau mewnol a phynciau cysylltiedig eraill. 

Bydd dysgwyr yn cael derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad SC400, er mwyn ennill statws achrededig.

Mae sefyll yr arholiad SC400 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth allweddol

Mae gweinyddwr diogelu gwybodaeth yn newid gofynion risg a chydymffurfiaeth sefydliad i weithrediadau technegol. Maent yn gyfrifol am weithredu a rheoli atebion ar gyfer dosbarthu cynnwys, atal data, diogelu gwybodaeth, rheoli cylch bywyd data, rheoli cofnodion, preifatrwydd, risgiau a chydymffurfiaeth.

Maent hefyd yn gweithio gydag unigolion eraill sy'n gyfrifol am lywodraethu, data a diogelwch i werthuso a datblygu polisïau er mwyn i’r afael â nodau lleihau risg a chydymffurfio’r sefydliad. Mae'r rôl hon yn helpu gweinyddwyr llwyth gwaith, perchnogion cymwysiadau busnes, adrannau adnoddau dynol a rhanddeiliaid cyfreithiol er mwyn gweithredu datrysiadau technoleg sy'n cefnogi polisïau a rheolaethau angenrheidiol.

Bydd gan ddysgwyr brofiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft 365, gan gynnwys:

  • Microsoft 365 Apps
  • Microsoft 365 Exchange Online
  • Microsoft SharePoint
  • Microsoft OneDrive
  • Microsoft Teams

Bydd dysgwyr hefyd yn gyfarwydd â defnyddio PowerShell.

Testunau

  • Gweithrediadau Diogelu Gwybodaeth Microsoft 365.
  • Gweithredu camau Atal Data
  • Gweithredu Cylch Bywyd Data a Rheoli Cofnodion
  • Monitro ac archwilio data a gweithgareddau gan ddefnyddio Microsoft Purview
  • Rheoli risgiau mewnol a Phreifatrwydd Risgiau gan ddefnyddio Microsoft 365

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweithrediadau Diogelwch Azure a rolau Diogelwch Rhwydwaith.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.

Off