Skip to main content

Gweinyddwr Hunaniaeth a Mynediad Cysylltiol Ardystiedig Microsoft (SC300) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Pedwar Diwrnod

Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn archwilio sut i ddylunio a gweithredu systemau rheoli hunaniaeth a mynediad trwy ddefnyddio Microsoft Entra ID.

Byddwch yn dysgu sut i reoli tasgau megis darparu mynediad dilysu ac awdurdodi diogel i gymwysiadau, darparu profiadau di-dor a dulliau rheoli hunanwasanaeth i bob defnyddiwr, yn ogystal â chreu mynediad a meddalwedd llywodraethu a datrysiadau rheoli mynediad gan sicrhau y gallwch datrys problemau, monitro ac adrodd ar eich amgylchedd.

Gall y Gweinyddwr Hunaniaeth a Mynediad weithredu ar ei liwt ei hun neu mewn tîm. Byddwch yn dysgu sut mae'r rôl hon yn cydweithio ag eraill yn y sefydliad i hybu prosiectau hunaniaeth strategol, a'r nod yn y pen draw yw darparu gwybodaeth i chi fel y gallwch foderneiddio datrysiadau hunaniaeth, gweithredu datrysiadau hunaniaeth hybrid a gweithredu gwasanaeth llywodraethu hunaniaeth.

Bydd dysgwyr yn cael derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad SC300, er mwyn ennill statws achrededig.

Mae sefyll yr arholiad SC300 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth allweddol

Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer Gweinyddwyr Hunaniaeth a Mynediad sy'n bwriadu sefyll yr arholiad ardystio cysylltiedig, neu unigolion sy'n ymgymryd â thasgau gweinyddu hunaniaeth a mynediad yn eu rôl bresennol. Byddai'r cymhwyster hefyd yn ddefnyddiol i weinyddwyr neu beirianwyr sydd am arbenigo mewn darparu datrysiadau hunaniaeth a systemau rheoli mynediad ar gyfer datrysiadau seiliedig ar Azure, gan chwarae rhan hanfodol mewn amddiffyn sefydliad rhag bygythiadau.

Testunau

  • Archwilio hunaniaeth gan ddenfyddio Microsoft Entra ID
  • Gweithredu atebion rheoli hunaniaeth
  • Gweithredu atebion Dilysu a Rheoli Mynediad 
  • Gweithredu Rheoli Mynediad ar gyfer Apiau
  • Cynllunio a gweithredu strategaeth llywodraethu hunaniaeth

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweithrediadau Diogelwch Azure a rolau Diogelwch Rhwydwaith.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft

Off