Skip to main content

Diwrnod Darganfod Digidol – Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchedd yn y Gweithle

Rhan-amser
Sketty Hall
Un Diwrnod

Trosolwg

Mae Diwrnod Darganfod Digidol yn addas ar gyfer gweithwyr sydd am ddefnyddio offer DA yn fwy effeithiol a hyderus.

Mae’n gyfle i archwilio offer fel ChatGPT, Copilot, Notebook LM a Gamma, gan gwblhau tasgau ymarferol gan gynnwys rheoli a chrynhoi negeseuon e-bost, recordio a thrawsgrifio cyfarfodydd a chynllunio prosiectau'n fwy effeithiol.

Mae'r sesiwn yn pwysleisio’r defnydd o DA yn y byd go iawn, a bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd i rannu profiadau, dysgu gan eraill, a datblygu ffyrdd synhwyrol ac effeithiol o ddefnyddio DA yn y gweithle bob dydd.

Gwybodaeth allweddol

Gwybodaeth am ddefnyddio offer digidol.

Cyflwynir y cwrs drwy weithdy ymarferol. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn yn y bore dan arweiniad tiwtor, gan archwilio amrywiaeth o offer digidol a all eu helpu yn y gweithle. Yna, byddant yn cael amser i ddefnyddio'r offer a rhoi cynnig ar dasgau penodol.

Bydd sesiwn y prynhawn yn fwy cydweithredol a bydd dysgwyr yn cael cyfle i rannu syniadau ac offer gan fynd i’r afael â heriau go iawn. Byddant yn trafod yr hyn sydd wedi gweithio'n dda yn eu lleoliadau eu hunain, yn trafod materion heriol ac yn gweithio gyda'i gilydd fel grŵp i archwilio atebion, datrys problemau a rhannu dulliau ymarferol y gellir eu defnyddio o ddydd i ddydd.

Cyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel:

  • Cydweithio a Chyfathrebu
  • Offer Deallusrwydd Artiffisial a Digidol Am Ddim ar gyfer Addysg
  • Creu Cynnwys Digidol ar gyfer Ymgysylltu
  • Hygyrchedd Digidol.

Cyrsiau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel:

  • Cwrs byr - Llythrennedd Digidol Lefel 2 (Dau ddiwrnod)
  • Cwrs byr - Llythrennedd Digidol Lefel 3 (Pum niwrnod)
  • Sgiliau Digidol Lefel 2 ar gyfer Busnes
  • Sgiliau Digidol Lefel 3 ar gyfer Busnes.

Tystysgrif presenoldeb.

Dewch â'ch gliniadur eich hun os yn bosibl er mwyn cofrestru ar gyfer offer digidol ar eich dyfais eich hun. Os nad oes gennych liniadur, gallwn ni ddarparu un.

Off