Datblygwr Cysylltiol Microsoft Power Automate RPA (PL500) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae'r cymhwyster hwn yn helpu sefydliadau i wneud y mwyaf o’u gweithrediadau trwy symleiddio, awtomeiddio a thrawsnewid tasgau a phrosesau busnes. Bydd dysgwyr yn deall sut i awtomeiddio cymwysiadau Windows a phorwyr a therfynellau eraill sy’n cymryd llawer o amser neu yn cynnwys prosesau ailadroddus.
Bydd dysgwyr yn defnyddio ystod o ddulliau awtomeiddio megis IU, API a Chronfeydd Data, a byddant yn dadansoddi, dylunio a gweithredu awtomeiddiadau trwy ddefnyddio llifoedd bwrdd gwaith Power Automate a llifoedd y cwmwl. Trwy awtomeiddio prosesau robotig (RPA), bydd dysgwyr gweithredu â rhesymeg wrth drin data, cymwysiadau a gwasanaethau.
Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft PL500, er mwyn ennill statws achrededig PL500.
Mae sefyll arholiad PL500 yn ofyniad gorfodol er mwyn sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid i ddysgwyr feddu ar brofiad o ddefnyddio:
- Bwrdd gwaith Windows
- Ieithoedd sgriptio e.e. VBScript a JavaScript
- Fframwaith .NET i gwblhau gweithredoedd arbennig
- Microsoft Dataverse
Mae unedau'r cymhwyster yn cynnwys:
- Dechrau defnyddio Power Automate ar gyfer y bwrdd gwaith
- Defnyddio Power Automate i gwblhau tasgau datblygu bwrdd gwaith hanfodol
- Dylunio Power Automate at ddiben llif bwrdd gwaith
- Mesur paramedrau mewnbwn ac allbwn trwy ddefnyddio Power Automate
- Integreiddio llifoedd bwrdd gwaith gyda chysylltydd Outlook ar gyfer y bwrdd gwaith trwy ddefnyddio Power Automate
- Defnyddio ysylltydd Teams yn Power Automate a llawer mwy!
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud ag apiau Power Platform.
Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.