Skip to main content

Creu Planwyr Clai Awyr Agored

Rhan-amser
Tycoch
Pedair awr
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Rhowch dwtsh personol i’ch gardd trwy ddylunio a chreu eich plannwr clai eich hun wedi’i wneud â llaw. Bydd y cwrs creadigol, ymarferol hwn yn mynd â chi drwy’r broses o siapio, adeiladu a gorffen plannwr unigryw sy’n addas i’w ddefnyddio y tu allan.

Gydag arddangosiadau a chymorth gan eich tiwtor, byddwch yn archwilio amrywiaeth o dechnegau modelu clai a gwneud mowldiau, gan ddysgu sut i wneud cerfluniau a all wrthsefyll yr awyr agored. Mae’r cwrs yn annog arbrofi ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwneud 3D a seramig ymarferol. 

Mae cyfleoedd i ddatblygu technegau castio amrywiol gyda deunyddiau gwahanol gan gynnwys: 

  • Plastr
  • Modroc
  • Alginad
  • Clai/sment.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i ddechreuwyr, selogion garddio, neu’r rhai sydd â diddordeb mewn serameg. Erbyn diwedd y gweithdy, byddwch wedi creu eich plannwr awyr agored unigryw eich hun.

Sylwch: Bydd rhaid i chi gasglu darnau seramig ar ôl eu tanio.

Gwybodaeth allweddol

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Mae’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creadigrwydd, serameg, neu ddysgu sgiliau ymarferol.

Outdoor Clay Planters
Cod y cwrs: ZA127 ST
30/03/2026
Tycoch
1 week
Mon
10:30 - 3pm
£60