Skip to main content

Archwilio a Sicrwydd (AA) - Cyfrifeg ACCA

Rhan-amser
Lefel 5/6
ACCA
Sketty Hall
30 wythnos

Ffôn: 01792 284097   E-bost: accountancy@gcs.ac.uk

Trosolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.

Uned
Archwilio a Sicrwydd (AA). Byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r broses o gynnal ymgysylltiad sicrwydd a’i gymhwyso yng nghyd-destun y fframwaith rheoleiddio proffesiynol.

ACCA logo

Gwybodaeth allweddol

Cwblhau AAT Lefel 4 Cyfrifeg Broffesiynol neu eithriadau gradd neu gwblhau modiwlau ACCA - BT, MA ac FA

Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill LW, FR, TX, FR, FM, SBL a SBR, a phynciau dewisol.

Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae’r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500.

Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk 

AA (F8) - Audit & Assurance
Cod y cwrs: PC002 ETF8
11/09/2024
Plas Sgeti
13 weeks
Wed
5 - 9pm
£630
Lefel 6