Solar PV a Gwefru Batri - Cwrs
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae Gosodwr Solar Ffotofoltäig yn gwrs ar gyfer unigolion sydd am sicrhau cymhwyster cydnabyddedig mewn gosod a chynnal a chadw systemau technoleg adnewyddadwy. Mae'r cymhwyster yn cael ei gydnabod a'i dderbyn gan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu.
Mae'r cwrs Systemau Storio Batri/Gwefrio yn addas ar gyfer gosodwyr trydanol sy'n gosod systemau ffotofoltäig gwrthdröydd a fydd yn elwa o osod systemau storio batris at ddibenion storio ynni i'w ddefnyddio maes o law.
Gwybodaeth allweddol
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio ar gyfer trydanwyr a gosodwyr profiadol sy'n dymuno gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth gyfredol i'w galluogi i ddylunio, gosod, profi ac archwilio ystod o osodiadau storio ffotofoltäig a batris.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros bum niwrnod a bydd yn cynnwys elfennau ymarferol ac arholiadau ar-lein lle bo'n berthnasol.
Testunau
- Cyflwyniad i EESS (Systemau Storio Ynni Trydanol)
- Deall y gwahanol gydrannau a’r saernïaeth dan sylw.
- Cymwysiadau EES a chyflyrau gweithredu
- Systemau batris AC a DC
- Nodi gwahanol fatris a'u nodweddion mewn perthynas ag EESS
- Diogelwch a chynllunio
- Dylunio, manylu, maint a gosod EESS
- Cymeradwyo DNO a phroses cysylltiad rhwydwaith
- Materion iechyd a diogelwch
- Archwilio, profi, comisiynu a chynnal a chadw
- Trosglwyddo a chwblhau dogfennaeth
Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar BS7671: Cymhwyster Rheoliadau Trydanol 2018 neu ardystiad cyfatebol sy'n cynnwys Arolygu a Phrofi.
Ffioedd: £850