Skip to main content

Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu - Dyfarniad

GCS Training
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r dyfarniad Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu yn addas i’r rhai sy’n gweithio yn y maes, neu sydd am gael dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd. 

Nod y cymhwyster yw darparu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol sy’n gysylltiedig â sicrhau ansawdd mewnol y broses asesu. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cymorth i ddefnyddio’r wybodaeth hon trwy gwblhau portffolio o dystiolaeth i ddangos eu cymhwysedd fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol. 

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod dysgwyr yn alwedigaethol gymwys, yn brofiadol a/neu yn gymwysedig yn y sector lle byddan nhw’n sicrhau ansawdd mewnol.

Bydd angen i ddysgwyr fod yn aseswyr cymwysedig wrth eu gwaith am o leiaf un flwyddyn cyn dilyn y cymhwyster hwn. 

Bydd y cymhwyster yn cael ei addysgu o fewn un diwrnod, sy’n cynnwys trafodaethau a gweithgareddau.

Testunau

  • Rôl y swyddog sicrhau ansawdd mewnol
  • Cynnal a gwerthuso systemau asesu a sicrhau ansawdd mewnol
  • Cynorthwyo aseswyr (o leiaf ddwy flynedd)
  • Monitro ansawdd perfformiad yr aseswyr
  • Sut i fodloni gofynion sicrhau ansawdd mewnol gan gynnwys cydgysylltu â swyddogion sicrhau ansawdd allanol
  • Cwblhau’r portffolio

Gall dysgwyr symud ymlaen o’r cymhwyster hwn i ddyfarniadau neu unedau dysgu a datblygu ychwanegol. 

Ar ddiwedd y cymhwyster, bydd dysgwyr wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol gan eu galluogi i weithio fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol cymwysedig.