Skip to main content

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (Highfield) Lefel 3 – Dyfarniad

GCS Training
Lefel 3
Highfield
Llys Jiwbilî
Tri diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yw helpu dysgwyr i fod yn swyddogion cymorth cyntaf yn y gwaith. Mae cynnwys y cymhwyster yn bodloni gofynion Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), ac Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Gogledd Iwerddon (HSENI) ar gyfer hyfforddi swyddogion cymorth cyntaf mewn sefydliadau sydd wedi nodi bod angen i staff gael eu hyfforddi i’r lefel hon o fewn eu hasesiad anghenion cymorth cyntaf.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys gwybodaeth megis rolau a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf, sut i asesu digwyddiad ac adnabod arwyddion a symptomau anafiadau a salwch. Mae hefyd yn cynnwys sgiliau cymorth cyntaf mewn adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a’r defnydd o ddiffibriliwr allanol awtomatig (AED), yn ogystal â chynorthwyo rhywun sy’n dioddef o anaf a salwch mawr megis anafiadau i’r frest, anafiadau i’r asgwrn cefn, anaffylacsis ac awto-chwistrellwyr.

Yn unol â’r canllawiau a ddarparwyd gan HSE ac HSENI, mae’r cymhwyster yn cefnogi/cymeradwyo swyddogion cymorth cyntaf yn y gwaith am gyfnod o dair blynedd, ac wedi hynny bydd angen i ddysgwyr ddilyn y cwrs eto. Felly, mae’r cymhwyster yn ddilys am dair blynedd o ddyddiad y dyfarniad.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod dysgwyr yn 14 oed neu hŷn.

I ddilyn y cwrs hwn, rydym yn argymell:

  • Eich bod yn gorfforol heini
  • Nad oes gennych broblemau cefn
  • Nad ydych yn dioddef o unrhyw broblemau anadlu

Unedau

  • Cymorth cyntaf brys yn y gwaith
  • Adnabod a rheoli salwch ac anafiadau yn y gwaith

Asesu

Asesir y cymhwyster trwy asesiad ymarferol yn ogystal ag asesiad theori dewis lluosog sy’n cael ei farcio gan y ganolfan.

Byddwch yn cwblhau’r asesiad ymarferol drwy gydol y cwrs. Mae’r asesiad parhaus hwn yn gofyn i ddysgwyr ddangos sgiliau cymorth cyntaf ymarferol. Bydd yr asesiad ymarferol yn cael ei recordio gan ddefnyddio’r matrics ymarferol o fewn y pecyn asesu.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr basio papur theori dewis lluosog 30 cwestiwn. Gellir cwblhau pob uned ar wahân neu ar ôl dysgu’r holl wybodaeth. 

Mae dyfarniad Highfield Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Lefel 3 wedi cael ei ddatblygu ac mae’n rhan o’r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF). Mae’r RQF yn fframwaith cymwysterau a reoleiddir gan Ofqual a CCEA Regulation. Rheoleiddir y cymhwyster gan Qualifications hefyd