Cyflwyniad i Gymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl (Highfield) Lefel 2 – Dyfarniad
Trosolwg
Mae Cyflwyniad i Gymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn ategu rôl yn y gweithle ac/neu yn rhoi twf personol i ddysgwyr. Yn benodol, byddant yn gallu deall egwyddorion cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl.
Rôl y swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl yw darparu cymorth iechyd meddwl sylfaenol neu fod yr ymateb cyntaf i rywun sydd mewn angen, fel arfer yn y gweithle. Nid yw’r swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl yn glinigol gymwysedig i asesu, diagnosio na thrin iechyd meddwl gwael, ond bydd ganddo’r offer sylfaenol i wrando ar unigolion sydd angen cymorth ymateb cyntaf ar gyfer eu hiechyd meddwl.
Mae dysgwyr sy’n paratoi i fentro i fyd gwaith neu’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth yn gallu dilyn y cymhwyster hwn. Mae’n gymhwyster seiliedig ar wybodaeth yn unig sy’n darparu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol neu egwyddorion cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl, gan gynnwys adnabod iechyd meddwl gwael ynoch chi eich hun ac mewn pobl eraill, cefnogi lles meddwl yn y gweithle, deall sut i hyrwyddo diwylliant o les yn y gweithle a phwysigrwydd gwydnwch a hunanofal ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod dysgwyr yn 16 oed neu hŷn.
Unedau
- Cyflwyniad i iechyd meddwl, iechyd meddwl gwael a lles
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau 15 cwestiwn o fewn 30 munud. Bydd rhaid i ddysgwyr llwyddiannus ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws maes llafur y cymhwyster a chyflawni marc pasio o 60% (9/15).
- Cyflwyniad i gymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl
Rhaid i ddysgwyr gwblhau 25 cwestiwn o fewn 50 munud. Bydd rhaid i ddysgwyr llwyddiannus ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws maes llafur y cymhwyster a chyflawni marc pasio o 60% (15/25).
Rhaid i ddysgwyr basio’r ddau arholiad er mwyn ennill y cymhwyster. Dyfernir gradd pasio/methu ar y cymhwystewr hwn.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, efallai bydd dysgwyr am barhau i ddatblygu eu dealltwriaeth trwy ddilyn cymhwyster Highfield Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd neu Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle i Reolwyr.
Mae dyfarniad (Highfield) Lefel 2 Cyflwyniad i Gymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl wedi cael ei ddatblygu ac mae’n rhan o’r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF). Mae’r RQF yn cynnwys y cymwysterau hynny a reoleiddir gan Ofqual a CCEA Regulation. Rheoleiddir y cymhwyster gan Gymwysterau Cymru hefyd.