Skip to main content

Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle i Reolwyr (Highfield) Lefel 3 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 3
Highfield
Llys Jiwbilî
Dau ddiwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle i Reolwyr yn ategu rôl yn y gweithle ac/neu yn rhoi twf personol i ddysgwyr. Yn benodol, byddant yn gallu deall iechyd meddwl yn y gweithle, sut mae iechyd meddwl gwael yn effeithio ar weithwyr a sut y gall rheolwyr gefnogi gweithwyr.

Rôl y rheolwr yw arwain, mentora a chynorthwyo gweithiwr i ymgysylltu’n rhagweithiol â’u cyflogaeth, gan gyfrannu at dwf y sefydliad, a gweithio mewn ffordd sy’n cefnogi twf yr unigolyn ei hun yn ogystal ag amcanion a gwerthoedd y sefydliad.

Mae rôl y rheolwr yn cynnwys cynorthwyo gweithwyr sydd ag iechyd meddwl gwael yn y gweithle, ac mae’r cymhwyster hwn yn darparu dealltwriaeth o’r egwyddorion sylfaenol sy’n gysylltiedig â chefnogi iechyd meddwl yn y gweithle a hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o ‘well iechyd yn y gwaith’.

Mae dysgwyr sy’n paratoi i fentro i fyd gwaith neu’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth yn gallu dilyn y cymhwyster hwn. Mae’n gymhwyster seiliedig ar wybodaeth yn unig sy’n darparu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o ran egwyddorion iechyd meddwl, adnabod iechyd meddwl gwael ynoch chi eich hun ac mewn pobl eraill, cefnogi lles meddwl yn y gweithle, deall sut i gymryd rhan mewn sgyrsiau iechyd meddwl yn y gweithle, sut i gefnogi gweithwyr mewn perthynas â’u hiechyd meddwl a dulliau o reoli eich lles eich hun.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod dysgwyr yn 16 oed neu hŷn.

Unedau

  • Cyflwyniad i iechyd meddwl, iechyd meddwl gwael a lles

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau 15 cwestiwn o fewn 30 munud. Bydd rhaid i ddysgwyr llwyddiannus ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws maes llafur y cymhwyster a chyflawni marc pasio o 60% (9/15).

  • Iechyd meddwl yn y gweithle i reolwyr

Rhaid i ddysgwyr gwblhau 20 cwestiwn o fewn 30 munud. Bydd rhaid i ddysgwyr llwyddiannus ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws maes llafur y cymhwyster a chyflawni marc pasio o 60% (12/20).

Rhaid i ddysgwyr basio’r ddau arholiad er mwyn ennill y cymhwyster. Dyfernir gradd pasio/methu ar y cymhwystewr hwn.

Mae dyfarniad (Highfield) Lefel 3 Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle i Reolwyr wedi cael ei ddatblygu ac mae’n rhan o’r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF). Mae’r RQF yn cynnwys y cymwysterau hynny a reoleiddir gan Ofqual a CCEA Regulation. Rheoleiddir y cymhwyster gan Gymwysterau Cymru hefyd.