Skip to main content

Technegau Lliwio Creadigol 60 munud

Rhan-amser
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer trinwyr gwallt cymwysedig sydd am ddysgu amrywiaeth o dechnegau lliwio llawrydd.

Cewch Dystysgrif Coleg Gŵyr Abertawe ar ôl cwblhau’r cwrs.

Ychwanegwyd Mehefin 2020

Gwybodaeth allweddol

Cymhwyster trin gwallt Lefel 2 sy’n gorfod cynnwys lliwio a goleuo. Bydd disgwyl i chi ddarparu offer a chyfarpar sylfaenol a phen ymarfer.

Byd y cwrs yn cynnwys arddangosiadau a chyfranogiad ymarferol ar bennau ymarfer, a bydd hefyd yn cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch
  • Ymgynghori
  • Dewis cynnyrch
  • Cymhwyso cynnyrch
  • Arlliwio
  • Cyngor ôl-ofal

Bydd ffi o £5 am ddefnyddiau traul.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.