Gwneud Dodrefn Meddal
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i ddefnyddio peiriant gwnïo gan roi modd i chi ddatblygu sgiliau gwnïo i greu dodrefn meddal ar gyfer eich cartref.
Bydd dysgwyr yn cynhyrchu eitemau gan ddefnyddio patrymau a brynwyd gan addasu’r dyluniad i’w chwaeth bersonol nhw. Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o farciau patrwm, torri dilledyn allan a’r semau a’r gorffeniadau mwyaf priodol i’w defnyddio wrth greu dodrefn meddal.
Addysgir y cwrs yn ein Canolfan Ffasiwn a Thecstilau sy’n gartref i fyrddau torri patrymau, peiriannau gwnïo diwydiannol a domestig ac amrywiaeth lawn o offer cynhyrchu dillad proffesiynol.
9/5/22