Skip to main content

Ffotograffiaeth Ddogfennol

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn archwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ffotograffiaeth ddogfennol. Bydd dysgwyr yn arbrofi â ffotograffiaeth ffilm ddigidol a du a gwyn sy’n cynnwys y broses ddatblygu. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio camera SLR gan archwilio cyflymderau caead, agorfa ac amrywiaeth o osodiadau a chewch eich annog i gynhyrchu amrywiaeth o ganlyniadau ffotograffig.

Ychwanegwyd Gorffennaf 2021

Gwybodaeth allweddol

Byddai rhywfaint o sgiliau a phrofiad ffotograffiaeth yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol.

Addysgir y cwrs yn y gweithdy / stiwdio / ystafell dywyll a thrwy amrywiaeth o weithdai ymarferol.

Mae nifer o gyfleoedd gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 3, Y Cyfryngau Creadigol Lefel 3, a’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.