Skip to main content

Estyniadau Gwallt – Dulliau 1 a 2

Rhan-amser
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Opsiwn 1 – Dulliau Poeth i’r rhai a hoffai ddysgu sut i osod estyniadau wedi’u bondio ymlaen llaw

Opsiwn 2 – Dulliau Oer i’r rhai a hoffai ddysgu sut i osod micro-gylchoedd, nano-gylchoedd a micro-weadau

Cewch Dystysgrif Coleg Gŵyr Abertawe ar ôl cwblhau’r cwrs.

Ychwanegwyd Mehefin 2020

Gwybodaeth allweddol

Profiad blaenorol a chymhwyster trin gwallt Lefel 2.

Bydd gofyn i gyfranogwyr ddod ag offer a chyfarpar trin gwallt sylfaenol a phen ymarfer.

Caiff estyniadau ac offer estyniadau eu cyflenwi am gost i’r cyfranogwr – prisiau i’w cadarnhau

Bydd y sesiynau ymarferol hyn yn cynnwys:

  • Nodweddion a buddion y gwahanol fathau o estyniadau gwallt
  • Iechyd a diogelwch
  • Ymgynghori
  • Paru lliwiau
  • Lleoliad
  • Cynnal a chadw
  • Tynnu estyniadau a chyngor ôl-ofal

Costau cit ychwanegol i’w cadarnhau.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.