Dechrau Arni yn y Gegin – Seigiau Cig Sylfaenol (Tymor 1)
Trosolwg
Bydd y cwrs yn rhoi cyflwyniad i chi weithio yn y diwydiant arlwyo/pen-cogyddion. Byddwch yn cwblhau un uned fel rhan o’r cwrs hwn:
-
Cynhyrchu Seigiau Cig Sylfaenol (gallu cynhyrchu seigiau cig sylfaenol/deall sut i gynhyrchu seigiau cig sylfaenol).
Ychwanegwyd Awst 2018
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod gennych ddiddordeb brwd i weithio yn y diwydiant arlwyo/pen-cogyddion. Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen i chi wella’ch sgiliau.
Bydd rhaid dod am gyfweliad anffurfiol/sesiwn arweiniad cyn cofrestru.
Addysgir ac asesir y cwrs ar Gampws Tycoch, yn ein ceginau hyfforddi arbenigol. Bydd dulliau asesu’n cynnwys arsylwadau ac asesiadau ymarferol, chwarae rôl, trafodaethau, profion byr a gwersi theori.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cwblhau portffolio o dystiolaeth, a gaiff ei gyflwyno i’r gwirwyr allanol i’w gymedroli.
Bydd gofyn i chi wisgo siaced pen-cogydd, trwser, tei, het, ffedog ac esgidiau blaen dur (cyfanswm o £70). Mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i helpu gyda chostau gwisg.
Rhaid rhoi gwallt mewn rhwyd wallt. Ni chaniateir gemwaith na thyllau gweladwy. Dim farnais ewinedd/ewinedd gel. Caniateir ychydig iawn o golur. Bydd gofyn i chi olchi’r llestri, fel rhan o’r cwrs hwn.
Efallai y byddwch am brynu set o gyllyll pen-cogydd. Gallwn ni awgrymu cyflenwad.
Bob wythnos, byddwch yn dysgu sut i baratoi a choginio rysáit glasurol. Byddwn ni’n darparu’r cynhwysion. Byddwch yn gallu prynu’r eitemau a wnewch, am ffi fach, i dalu costau cynhwysion