Skip to main content

Cyflwyniad i Serameg

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn i serameg yn eich annog i archwilio amrywiaeth o dechnegau addurno ac adeiladu gan ddefnyddio clai. Cewch eich cyflwyno i wydreddau seramig a’ch annog i arbrofi i ddatblygu’ch canlyniadau unigryw eich hun. Bydd defnyddio odyn yn rhan allweddol o’r cwrs a byddwch yn dysgu sut i baratoi a defnyddio odyn ar gyfer tanio’ch gwaith.

Ychwanegwyd Mehefin 2020

Gwybodaeth allweddol

Does dim angen sgiliau na phrofiad blaenorol gan mai cwrs rhagarweiniol yw hwn.

Addysgir y cwrs hwn drwy amrywiaeth o weithdai ymarferol – tair awr yr wythnos dros 10 wythnos – ac mae’n amodol ar asesiadau parhaus.

Mae sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, a’r Diploma Syflaen mewn Celf a Dylunio.

Mae ffi £20 ar gyfer stiwdio / deunyddiau

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.