Skip to main content

Ffotograffiaeth Ddigidol mewn Lleoliad Stiwdio

Rhan-amser
Lefel Mynediad 3
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn yn eich annog i ddatblygu sgiliau gan ddefnyddio camera digidol mewn stiwdio. Cewch eich cyflwyno i stiwdio ffotograffiaeth a byddwch yn arbrofi â thechnegau goleuo. Byddwch hefyd yn arbrofi â thechnegau i olygu a thrin y delweddau y byddwch chi’n eu tynnu.

Ychwanegwyd Mehefin 2020

Gwybodaeth allweddol

Cwrs rhagarweiniol yw hwn ac felly nid oes angen profiad blaenorol.

Addysgir y cwrs mewn stiwdio drwy amrywiaeth o weithdai ymarferol – tair awr yr wythnos dros 10 wythnos – yn amodol ar asesiadau parhaus.

Mae sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, a Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.